- Rhagdwymo eich ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Marc Nwy 6.
- Dechrau trwy wneud y rosti tatws. Twymo talp o fenyn mewn padell ffrio a ffrio’r genhinen yn ysgafn am ambell funud neu ddau tan ei bod yn feddal. Rhoi’r tatws wedi eu gratio mewn lliain sychu llestri glân a gwasgu cymaint o dŵr â phosibl allan dros bowlen a’i daflu. Yna cymysgu’r cennin, tatws, caws, bara lawr, pupur a halen mewn powlen fawr a chymysgu’n dda.
- Defnyddio llwy fetal i sgwpio’r gymysgedd i mewn i 4 pati eithaf mawr. Rhoi rhain mewn padell ffrio dwym ag olew ynddi a’u ffrio am 4-5 munud bob ochr tan eu bod yn euraidd a chrimp. Ni ddylid eu troi tan i chi weld lliw euraidd oddi tanynt, neu bydd y rosti yn torri’n ddarnau. Unwaith iddyn nhw goginio, mae angen eu cadw’n gynnes ar dymheredd isel os oes popty dwbl gennych chi wrth i chi goginio gweddill y brecwast, neu osod ffoil drostyn nhw, a’u rhoi’n ôl yn y popty poeth am funud neu ddau i’w twymo’n dda cyn ei gweini.
- Dechrau grilio’r selsig o dan gril canolig am funud neu ddau, a’u troi’n rheolaidd fel eu bod yn coginio’n gytbwys.
- Rhoi’r madarch, tomatos a’r pwdin gwaed ar hambwrdd pobi. Gan ddefnyddio brws crwst, rhoi ychydig o fenyn wedi toddi dros y madarch ac ychydig o olew dros y tomatos a’r pwdin gwaed cyn ychwanegu pupur du. Coginio yn y ffwrn am ryw 10 munud.
- Ychwanegu’r bacwn i’r gril gyda’r selsig (sydd bellach wedi bod yn coginio am ryw 8 munud), a’i goginio at eich dant am funud neu ddau – rydyn ni’n hoffi ein cig moch ni’n grimp.
- Dechrau potsio 2 wy mewn sosban o ddŵr berw, gyda llaw rydd neu gan ddefnyddio padell bostio wyau.
- Dylai’r holl elfennau fod yn barod yr un pryd. Rhoi’r holl gynhwysion ar blatiau, gan orffen y pryd gyda’r wy ffres wedi ei botsio ar ben y rosti tatws. Gellid ei weini gyda phowlen o iogwrt, mêl a ffrwythau ffres fel mefus a llus dros granola er mwyn gorffen y brecwast mewn ffordd ffres.
Brecwast Cymreig gyda rosti tatws bara lawr
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 4-5 sleisen o facwn cefn
- 4 selsigen porc
- pwdin gwaed, wedi ei sleisio
- 2 fadarchen fflat fawr
- 2 wy
- tomatos bach, ar winwydden
Ar gyfer y rosti tatws:
- 2 daten fawr, wedi eu plicio a’u gratio’n fras
- 1 genhinen fach, wedi ei thorri’n fân
- 2 lwy de bara lawr, ffres neu mewn tun
- 50g caws Cheddar Cymreig, wedi ei ratio
- talp o fenyn hallt
- pinsiad o halen a phupur du