- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C / 170°C ffan / Marc Nwy 5.
- Cymysgwch y sudd masarn, y siwgr a’r stowt. Rhowch dwy haen o ffoil mewn padell rhostio ddofn. Rhowch yr asennau yn y badell ac arllwyswch y gymysgedd stowt drostynt.
- Rhowch ddarn arall o ffoil drostynt a’u coginio yn y ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw am tua 1½ awr nes bod y cig yn frau o amgylch yr asgwrn.
- Tynnwch y ffoil a choginiwch y cig heb orchudd am 20-30 munud arall i leihau a thewychu’r saws ychydig.
- Gweinwch yr asennau mewn pentwr gyda saws a salad hadau quinoa llysieuol.
Asennau breision gyda sglein stowt a masarn
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1.8kg asennau breision porc
- 4 llwy fwrdd sudd masarn
- 1 llwy fwrdd siwgr brown golau
- 500ml stowt tywyll