facebookPixel

Porc Pwllheli yw Pencampwr y Pencampwyr ym Mhrydain

Rhagfyr 5, 2018

Mae Ela a Huw Roberts o gwmni Oinc Oink ger Pwllheli yn dathlu’r ffaith fod eu selsig Cig Moch Pedigri Cymreig a Chaws Cheddar o Gymru wedi cael ei henwi fel y selsigen orau yng Ngwledydd Prydain.

O blith 16 o bencampwyr yn cynrychioli gwahanol rannau o Brydain, y Cymry ddaeth i’r brig yng ngwobrau Siop Cigydd y Flwyddyn yn Llundain ddoe.

Yn gynharach eleni, enillodd Oinc Oink gystadleuaeth Cyflwynwch Eich Selsig Gorau Hybu Cig Cymru (HCC) yn y Sioe Frenhinol. Roedd y llwyddiant yma wedi rhoi’r hawl iddynt gynnig am y brif wobr ‘Pencampwr y Pencampwyr’ ar draws Prydain Fawr.

Mae’r selsig yn cynnwys cig o genfaint pedigri Huw ac Ela o Ben Llŷn ynghyd â chaws Cymreig arbennig o gwmni Hufenfa De Arfon.

Roedd yr un selsig hefyd yn ganolog i ddigwyddiad bwyty dros dro gan Porc.Wales yng nghanol Caerdydd a gynhaliwyd ym mis Medi er mwyn hyrwyddo porc o Gymru.

Wrth ddathlu derbyn eu gwobr yn y cinio gwobrwyo, dywedodd Ela Roberts:

“Rwy’ wrth fy modd i fod yma yn Llundain ar gyfer y gystadleuaeth Pencampwr y Pencampwyr ac o fod wedi dod i’r brig gyda’n selsig porc o Gymru gyda chaws Cymreig – cynnyrch cynhenid Cymru ar ei orau!”

Dywedodd Swyddog Marchnata HCC Kirstie Jones:

“Mae’n wych fod selsig Huw ac Ela wedi cael eu coroni’n Bencampwr y Pencampwyr, ac wedi cael eu cydnabod am eu safon uchel, arloesedd, a blas godidog.”

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This