Wrth i oerni’r gaeaf ddechrau ymadael, daw Cymru’n fyw gyda cennin Pedr lliwgar wrth i Ddydd Gŵyl Dewi gyrraedd ar Fawrth 1af. Mae’r diwrnod hwn yn ddathliad o ddiwylliant Cymru, ei dreftadaeth ac, wrth gwrs, ei fwyd gwych.
Roedd Dewi Sant yn adnabyddus am ei fywyd syml, darbodus. Yn enwog, dywedodd; “Gwnewch y pethau bychain,” sy’n atseinio gyda ni yn Porc Blasus. Rydym yn credu yng ngrym y manylion bychan, fel dewis cynhwysion yn ofalus a’r technegau y mae ein ffermwyr yn eu defnyddio i greu y cynnyrch porc gorau.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae prydau traddodiadol Cymreig yn cael eu dathlu a’u bwyta ar draws y wlad. Mae cawl a chacennau cri ( neu picau ar y maen, neu pice bach!) yn ddewisiadau poblogaidd. Ond beth am wneud y Dydd Gŵyl Dewi hwn yn un arbennig drwy ddefnyddio porc lleol o ansawdd?
Pa mor bell yw’n porc o’ch fforc?
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn amser i ddathlu hunaniaeth Gymreig, ac mae bwyd yn chwarae rhan fawr yn hynny. Drwy ddod o hyd i Porc Blasus ar gyfer eich pryd o fwyd Dydd Gŵyl Dewi, rydych nid yn unig yn cefnogi ffermwyr a busnesau lleol, ond hefyd yn lleihau eich effaith amgylcheddol ac yn sicrhau lles anifeiliaid. Mae Porc Blasus yn cael ei gynhyrchu mewn ffermydd ar raddfa fach, lle mae moch yn cael eu magu mewn amodau naturiol ac yn cael eu bwydo gyda diet cytbwys. Mae hyn yn arwain at gynnyrch o safon gwell sy’n llawn suddion ac yn llawn blas. I ddod o hyd i’ch cyflenwr porc agosaf, gallwch ddefnyddio’r map rhyngweithiol ‘Ble i brynu‘ ar y wefan.
Ar ôl i chi brynu eich porc, dyma ychydig o syniadau i chi ar beth i’w wneud ag o ar gyfer eich gwledd Dydd Gŵyl Dewi:
Bochau mochyn wedi’u brwysio mewn seidr gyda thatws stwnsh wedi’u pobi: Mae’r rysáit hon yn cyfuno bochau moch brau (neu ysgwydd porc wedi’i ddeisio) gyda saws seidr cyfoethog, gyda stwnsh tatws hufennog wedi’i bobi ar yr ochr.
Ffagots porc wedi’u lapio mewn cig moch gyda grefi saets a winwns: Mae’r rysáit hon yn defnyddio briwgig bol neu ysgwydd porc a iau mochyn, perlysiau a sbeisys i greu peli cig swmpus, a’u gweini â grefi saets a nionyn cyfoethog. Mae ychydig yn wahanol i bryd rhost traddodiadol ond yr un mor hyfryd!
Golwython porc gyda chaws pob a sglodion tenau: Dyma deyrnged fechan i dreftadaeth bwyd gyfoethog Cymru, wrth ddefnyddio caws pob Cymreig (rarebit) i ychwanegu blas cyfoethog a sawrus i’r golwythion porc.
Felly, codwch wydraid i Dewi Sant, i Gymru, ac i’r pethau bach sy’n gwneud ein bwyd mor arbennig. Dydd Gŵyl Dewi Hapus!