facebookPixel

Cystadleuaeth Cyflwynwch eich Selsig Gorau 2023

Mehefin 7, 2023

Bellach yn dathlu ei phumed flwyddyn, mae Hybu Cig Cymru (HCC) a Porc Blasus yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth flynyddol i ddod o hyd i selsig gorau’r genedl!

Bydd y gystadleuaeth unwaith eto’n dychwelyd i’r Sioe Frenhinol yr haf hwn, gyda’r tri sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu beirniadu mewn digwyddiad arbennig ar ddydd Iau’r Sioe. Mae’r rownd derfynol yn cynnwys beirniaid enwog, ac mae’n un o uchafbwyntiau’r wythnos ar stondin HCC.

Bydd yr enillydd lwcus hefyd yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer cystadleuaeth Pencampwr Pencampwyr y Selsig ledled y DU, a gynhelir yng Ngwobrau Siop Gigydd y Flwyddyn ym mis Chwefror 2024.

I gystadlu, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi’ch manylion trwy ddilyn y ddolen isod. Bydd y ffurflen yn gofyn ichi restru cynhwysion eich selsigen ac amlinellu’n gryno iawn pam rydych chi’n credu y dylai ennill.

Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion ysgrifenedig (ni ddylai’r ffurflen gymryd mwy na 5 munud i’w llenwi) yw dydd Gwener 30 Mehefin. Mae dolen i’r ffurflen i’w gweld yma

Telerau ac Amodau

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This