facebookPixel

Cynhyrchydd salami o Gymru yn sicrhau medal ‘olympaidd’

Mehefin 29, 2020

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y busnesau yng Nghymru sydd wedi arallgyfeirio i ‘charcuterie’ a chigoedd wedi’u halltu wedi cynyddu.

Nawr, mae un wedi cipio gwobrau rhyngwladol, gyda Cwm Farm Charcuterie o Bontardawe yn plesio beirniaid cystadleuaeth fawreddog yng Ngwlad Groeg i hawlio medal aur am salami o’r safon uchaf yn seiliedig ar gynhwysion lleol – bara lawr a’u porc brid prin eu hunain.

Cyflwynodd Ruth Davies o Cwm Farm bedwar o gynhyrchion i’w beirniadu gan banel o gogyddion ac arbenigwyr bwyd o fri yng Ngwobrau Bwyd Olympaidd yn Athen.

Yn ogystal â chipio medal aur gyda salami bara lawr, fe gipiodd y cwmni o Gwm Tawe hefyd fedal arian am eu cynnyrch newydd o greision salami, yn ogystal ag efydd ar gyfer salami cennin a phwdin du wedi’i drwytho â phort.

Meddai Ruth Davies:

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y gwobrau hyn gan banel rhyngwladol o feirniaid, o blith miloedd o gystadleuwyr.

“Rydyn ni wedi buddsoddi mewn ehangu’r busnes a chynhyrchion arloesol newydd, ond heb golli’r ansawdd sydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ac mae’n wych gweld hyn yn talu ar ei ganfed.”

Llongyfarchiadau enfawr i Ruth a’r tîm yn Cwm Farm!

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This