facebookPixel

Croeso i’n gwefan newydd!

Tachwedd 2, 2021

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio gwefan Porc Blasus wedi’i hailwampio, cartref rhithiol i ffermwyr moch arbenigol Cymru, cynhyrchwyr a chigyddion porc.

Mae Cymru yn gartref i ddim ond 0.6% o boblogaeth moch y DU, ond mae’r wlad wedi datblygu enw da am arbenigo mewn bridiau prin, ffermio gyda safonau uchel o ran lles, a chynhyrchion arbenigol o ansawdd uchel, gyda llawer o gynhyrchwyr crefftus yn cipio gwobrau mawr.

Mae’r wefan wedi’i hailgynllunio yn cynnwys adran ‘ble i brynu’ a fydd yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws nag o’r blaen i’r cyhoedd ddod o hyd i’w cynhyrchydd porc agosaf a sut y gallant brynu – boed hynny trwy ddosbarthiad lleol, o’r fferm, marchnadoedd ffermwyr neu fanwerthwyr.

Yn ogystal â diwyg mwy cyfoes, mae gwefan hefyd yn cynnwys eitemau bywiog ar 22 o gynhyrchwyr, cogyddion a chigyddion o bob rhan o Gymru, yn ogystal â chyngor ar doriadau a choginio, a dolenni i 60 o ryseitiau porc blasus.

Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad HCC:

“Mae’r sector porc yng Nghymru yn greadur gwahanol iawn i lawer o wledydd eraill. Ond mae ei raddfa fechan yn caniatáu iddo arbenigo mewn cynhyrchion arbenigol unigryw a defnyddio cadwyni cyflenwi byr yn seiliedig ar gyfleusterau prosesu lleol. Fel y dywedwn yn aml, mae’n ‘porc’ ar raddfa fach yn rhoi blas mawr ar y cynnyrch!

“Bydd y wefan hon yn helpu pobl i wybod yn union ble i ddod o hyd i’r porc lleol gorau, boed yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd neu drwy wasanaethau dosbarthu, marchnadoedd ffermwyr neu siopau.

“Ochr yn ochr â ryseitiau mae gennym hefyd ganllawiau ar y rhan y gall porc ei chwarae mewn diet maethlon iach, ac mae cyfle i ymuno â’n cylchlythyr Porc Blasus sydd â ryseitiau a chystadlaethau newydd.”

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This