facebookPixel

Cigyddion Conwy yn dathlu llwyddiant ysgubol gyda gwobr selsig gorau Cymru

Gorffennaf 28, 2023

 

Mae siop gigydd Edwards o Gonwy yn dathlu dod yn gyntaf yng nghystadleuaeth ‘Cyflwynwch eich Selsig Gorau 2023’ Hybu Cig Cymru, gyda’u selsig Edwards’ Firecracker Celebration yn cael ei goroni fel y selsig gorau yng Nghymru.

Wedi’i sefydlu gan Ieuan Edwards ym 1983, roedd y cigyddion arobryn o Gonwy wrth eu boddau gyda’r fuddugoliaeth, gan ennill y wobr am y tro cyntaf.

Yn arbenigwyr mewn creu selsig a gwneud pastai gan ddefnyddio cymaint o ddulliau a ryseitiau traddodiadol â phosibl, bydd Edwards o Gonwy nawr yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer cystadleuaeth selsig ‘Pencampwr y Pencampwyr’ yng ngwobrau Siop Cigydd y Flwyddyn 2024 ledled y DU.

Wrth siarad ar ôl ennill y teitl yn ystod digwyddiad arbennig yn y Sioe Frenhinol, dywedodd Gweinyddwr Marchnata a Manwerthu Edwards o Gonwy, Jo Richardson:

“Mae’n anrhydedd enfawr bod ein selsig wedi ei enwi fel y gorau yng Nghymru. Rydym yn dathlu deugain mlynedd mewn busnes eleni, felly pa ffordd well o ddathlu na’ thrwy ennill y teitl hwn!

 

“Roedden ni’n gwybod y byddai selsig Firecracker Celebration Edwards yn rhywbeth i fod yn falch ohono – fe allech chi ddweud ein bod wedi bod yn gweithio arni ers pedwar degawd. Mae ennill y wobr hon yn dyst i’n tîm ymroddedig a thalentog wrth greu’r selsig gorau yng Nghymru.

 

“Roeddem yn nerfus iawn yn y rownd derfynol, ond roeddem wrth ein bodd pan gyhoeddodd y beirniaid ein selsig yr enillydd teilwng.

 

“Roeddem yn cystadlu yn erbyn arloeswyr ym maes creu selsig, gyda ennillwyr y llynedd a’r rheiny a ddaeth yn ail – felly roedden ni wrth ein bodd yn ennill y teitl.

 

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth selsig ‘Pencampwr y Pencampwyr’ ac yn croesi ein bysedd y cawn ein coroni’r goreuon ledled y DU.”

Curodd Edwards o Gonwy Prendergast Butchers o Hwlffordd a Red Valley Farm o Gaerfyrddin i’r teitl, gan syfrdanu’r panel o feirniaid Stephen Vaughan o Gigyddion Teulu Vaughan, Penyffordd a Clive Swan o Siop Fferm Swans, Yr Wyddgrug.

Wrth sôn am y gystadleuaeth eleni, dywedodd Philippa Gill, Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd Hybu Cig Cymru:

“Rydym wrth ein bodd bod Edwards o Gonwy wedi ennill y teitl eleni ac rydym yn dymuno’r gorau iddynt yn rowndiau terfynol ‘Pencampwr Pencampwyr’ y DU.

 

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n cystadleuwyr ac i bawb a fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth eleni. Roedd y safon yn uchel eto eleni, gan brofi bod gennym ddiwydiant porc cyffrous ac arloesol yma yng Nghymru.

 

“Mae ein cynhyrchwyr porc ar raddfa fach yn arbenigo mewn creu cynnyrch unigryw sydd yn aml ond ar gael i’w brynu’n uniongyrchol ganddynt hwy eu hunain a siopau annibynnol lleol, fel cigyddion.

 

“Oherwydd ei fod yn cynhyrchu llai o filltiroedd bwyd, mae hyn yn ei wneud yn gynnyrch bwyd mwy cynaliadwy. Gyda’r ansawdd gwych sydd ar gael, byddem yn annog defnyddwyr i ddod o hyd i’w cynhyrchydd lleol a ddarganfod yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig.”

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This