-
Amser paratoi
10 mun
-
Amser coginio
25 mun
-
Ar gyfer
3
Bydd angen
- 6 selsigen borc
- blawd
- 2 ŵy
- briwsion bara
- 2 lwy fwrdd o berlysiau cymysg
- Cynheswch y popty i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
- Mewn sosban, dewch â dŵr i’r berw. Ychwanegwch 6 selsigen borc a berwch am 5-10 munud.
- Tynnwch y selsig o’r dŵr a rhowch bob un ar sgiwer.
- Gyda chyllell finiog, torrwch i lawr hyd y selsig gan droelli o’u hamgylch. Tynnwch y selsig ar hyd y sgiwer, o un pen i’r llall.
- Gorchuddiwch bob selsigen â blawd, ŵy a briwsion bara.
- Rhowch nhw ar hambwrdd pobi a’u coginio am 20 munud.
- Gweiniwch gyda thatws stwnsh, pys a’ch hoff saws.