- Cynheswch fenyn ac olew mewn sosban. Ychwanegwch y winwnsyn a’r garlleg a’u coginio’n ysgafn.
- Ychwanegwch yr iau (neu’r afu), y briwgig porc a’r saets a choginio’r cig nes ei fod wedi brownio’n llwyr ac wedi’i goginio drwyddo am tua 4-5 munud. Ychwanegwch y sieri a gadewch i’r cymysgedd fyrlymu er mwyn llosgi’r alcohol.
- Ychwanegwch halen a phupur a siytni mango a gadewch i’r cymysgedd oeri.
- Ychwanegwch y crème fraiche a’i roi mewn prosesydd bwyd. Cymysgwch y cyfan nes ei fod yn llyfn.
- Rhowch y pâté mewn dysglau bach neu ramecinau a llyfnhau’r haen uchaf.
- Cynheswch y siytni mango am tua munud yn y microdon er mwyn ei gynhesu a’i feddalu. Taenwch y cnau sydd wedi’u torri ar ben y pâté a thaenwch haen denau o siytni mango drosto.
- Rhowch orchudd dros y pate a’i roi yn yr oergell i oeri am tua 2-4 awr nes bod y pâté wedi caledu ac oeri drwyddo.
- Gweinwch y pate gyda bara rhyg wedi’i dostio.
Pâté porc, pistasio a mango
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 225g iau neu afu mochyn wedi’i olchi a’i sychu a’i dorri’n ddarnau bach
- 225g briwgig porc heb lawer o fraster
- 12g menyn
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
- 2 glof o arlleg wedi’u torri
- 4 deilen saets ffres wedi’u torri’n fras
- 30ml (2 lwy fwrdd) sieri
- halen a phupur
- 2 lwy fwrdd siytni mango
- 3 llwy fwrdd crème fraîche
Ar gyfer yr haen uchaf:
- 4 lwy fwrdd siytni mango
- 25g cnau pistasio heb blisgyn, wedi’u torri’n fras
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud tua 4 x 200g o jariau bach.