- Yn gyntaf rhwbiwch y ciwbiau porc gyda’r sesnin, ei gymysgu mewn powlen a’i roi o’r neilltu.
- Yn y powlen gaserol, sauté y winwnsyn, y moron a’r seleri mewn olew olewydd tan eu bod yn feddal.
- Ffriwch dau draean o’r chorizo gyda’r llysiau meddal nes eu bod yn carameleiddio ac yn troi’n oren ac olew paprica yn llifo.
- Ychwanegwch y porc mewn dyrneidiau a’u selio yn yr olew lliw copr. Nid oes angen gormod o liw. Wedi gorffen pob dyrnaid, gwthiwch nhw i’r ochr i wneud lle i’r nesaf hyd nes bod y cyfan wedi’i goginio drwyddo a chymysgwch gyda’r chorizo a’r llysiau.
- Ychwanegwch y garlleg, saets, tomatos, past tomato a’r stoc a chymysgwch yn drwyadl nes bod y cig wedi ei orchuddio gan yr hylif.
- Ychwanegwch y tafelli chorizo heb eu coginio sy’n weddill a chymysgu. Arhoswch iddo ddechrau mudferwi a choginiwch ar yr hob am tua awr.
- Wedi iddo fudferwi am tua 45 munud cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Marc Nwy 6.
- Ar ôl awr draeniwch y ffa gwynion a’u hychwanegu nhw hefyd, ynghyd â’r persli. Caewch y clawr; rhowch y pryd yn y ffwrn a’i goginio am tua awr arall.
- Ar ôl tua 35 munud dechreuwch baratoi’r bara. Torrwch y bara yn 10 tafell, ychydig ar ongl. Cymysgwch y garlleg a’r halen môr a chymysgwch hwn gydag ychydig fenyn wedi toddi. Ychwanegwch y perlysiau a thaenwch y gymysgfa ar wyneb bob tafell o fara.
- Rhowch y bara o amgylch y ddysgl gaserol a’i roi yn ôl yn y ffwrn am tua 15 munud nes yn grensiog.
- Cymerwch ddarn o borc allan i weld os yw’n barod. Dylai gwympo’n ddarnau’n hawdd o’i brocio â fforc. Os nad yw’n gwbl barod, rhowch y pryd yn ôl yn y ffwrn am 20 munud arall a gwirio eto.
- Os yw’r hylif ychydig yn denau, rhowch y caserol yn ôl ar yr hob heb glawr, gadewch iddo fudferwi a thewychu’r saws.
Caserol porc, chorizo, ffa gwynion a bara crensiog
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 2 awr 30 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 400g o borc, ysgwydd neu goes, i’w friwsio, wedi’i drimio a’i dorri’n giwbiau mawr
- rhwbiad sesnin (1 llwy de o baprica mwg, 1 llwy de wastad o bowdr garlleg, 1 llwy de o oregano, ½ llwy de o halen môr, 1 llwy de o ffenigl, ½ llwy de o siwgr)
- 2 lwy fwrdd o olew olewydd
- 150g o chorizo, wedi’i dorri’n ddarnau hanner modfedd
- 1 winwnsyn canolig, wedi’i dorri’n fân
- 1 foronen ganolig, wedi’i sleisio
- 1 coes seleri, wedi’i blicio (gyda phliciwr llysiau) a’i dafellu
- 350ml o stoc cyw iâr
- 300g o domatos wedi’u torri’n fân
- 200g o ffa gwynion
- 2 clof garlleg, wedi’u gratio
- 4 deilen saets, wedi’i torri
- 1 llwy fwrdd past tomato
- llond llaw o bersli, wedi’i dorri
- pupur a halen fel sesnin
I’r bara crensiog:
- 1 ffon fara ffrengig
- 2 clof garlleg, wedi’i dorri
- pinsied o halen môr
- 50g o fenyn
- ½ llwy de berlysiau sych