- Leiniwch ac irwch hambwrdd bobi sgwâr 10”. Cynheswch y popty i 190°C / 170ºC ffan / Marc Nwy 5.
- Cynheswch badell ffrio a phan yn gynnes, ychwanegwch y bacwn brith a choginiwch, gan droi nes bod y bacwn yn dechrau crimpio.
- Ychwanegwch y sudd masarn, gan droi’r cymysgedd eto i’w gyfuno. Rhowch y gymysgedd bacwn mewn powlen a’i adael.
- Dros wres isel, toddwch y menyn mewn sosban. Unwaith iddo doddi, ychwanegwch y siwgwr a’i droi gyda llwy bren.
- Tynnwch y sosban o’r gwres ac ychwanegwch y powdr coco, blawd, y soda pobi a chymysgwch.
- Ychwanegwch yr wyau wedi’u curo a chymysgwch eto.
- Ychwanegwch y siocled tywyll a’r gymysgedd bacwn. Plygwch y cymysgedd nes ei fod wedi cyfuno’n dda, ac yna rhowch yn yr hambwrdd bobi.
- Coginiwch yng nghanol y popty am 25 munud. Unwaith mae wedi’i goginio, tynnwch y tun o’r popty a’i osod ar rac i oeri.
- Torrwch y brownis yn sgwariau a’u gweini gyda hufen ia.
Brownis bacwn a masarn
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 40 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 100g o facwn brith, tafelli tenau, wedi’u torri’n fân
- 2 llwy fwrdd o sudd masarn
- 150g o fenyn di-halen meddal
- 200g o siwgr meddal brown
- 50g o siwgr mân euraidd
- 75g o bowdr coco
- 150g o flawd plaen
- 1 llwy de o soda pobi
- 4 ŵy mawr, wedi’u curo
- 150g o sglodion siocled tywyll wedi’u torri
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud tua 12 o frownis.