- Mewn powlen fawr, cyfuno cynhwysion y marinâd, ychwanegu’r cig a chymysgu’n dda. Ei orchuddio a’i adael am 15 munud (os yn defnyddio stêcs ysgwydd, eu gadael am tua awr, wedi eu gorchuddio yn yr oergell).
- I wneud y saws, twymo’r olew mewn padell ffrio neu wok, ychwanegu’r sinsir a’r garlleg a chymysgu’n dda.
- Ychwanegu’r winwns, pupurau a moron a choginio am ryw 5-7 munud i’w meddalu.
- Ychwanegu’r cynhwysion sydd dros ben, cymysgu’n dda a’u berwi.
- Paratoi’r porc drwy roi pob ciwb yn y blawd, yna yn yr wy, a nôl yn y blawd i’w gorchuddio.
- Twymo olew (tua 2cm o ddyfnder) mewn padell ffrio drom a phan fo’n ddigon poeth, rhoi hanner y porc yn yr olew’n ofalus. Ffrio am 4-5 munud, eu troi unwaith, tan fod y darnau’n grimp ac yn euraidd. Tynnu’r porc allan o’r olew a’i ddraenio ar bapur cegin cyn parhau i ffrio gweddill y porc.
- I weini, berwi’r saws eto, ychwanegu’r porc a chymysgu’n ysgafn i orchuddio’r cig yn y saws blasus. Ei weini ar unwaith gyda reis wedi berwi a rhoi hadau sesame a winwnsyn bach wedi ei dorri drosto.
Porc sawrus a melys
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 25 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g stêcs lwyn neu stêcs ysgwydd porc, wedi eu torri’n giwbiau bychain
Ar gyfer y marinâd:
- 1 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
- 2 lwy fwrdd finegr brag
- pinsiad o ronynnau garlleg
Ar gyfer y tu allan crimp:
- 2 wy, wedi eu curo
- 100g blawd plaen
- 50g blawd corn
- pinsiad o bupur a halen
- olew llysiau i ffrio
Ar gyfer y saws:
- 1 llwy de olew
- 2 ewin garlleg, wedi eu malu
- darn 3cm o sinsir ffres, wedi gratio
- 1 winwnsyn mawr, wedi ei dorri’n fras
- 1 pupur coch, wedi ei dorri’n giwbiau mân
- 1 pupur gwyrdd, wedi ei dorri’n giwbiau mân
- 2 foronen – wedi eu torri’n stribedi tenau
- tun 300g o giwbiau pinafal mewn sudd
- 1 llwy fwrdd siwgr brown
- 1 llwy fwrdd saws tsili melys
- 2 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
- 2 llwy fwrdd saws coch
- 4 llwy fwrdd finegr brag
I weini:
- reis wedi ei goginio
- hadau sesame
- winwnsyn bach