facebookPixel

Yn dangos ein cefnogaeth i Gymru a chynnyrch Cymru

Medi 26, 2019

Gydag Organic September fis diwethaf yn addysgu pobl ledled y byd am fwyd organig ac arferion ffermio, mae Porc Blasus yn parhau i dynnu sylw at y gwaith caled y mae cyflenwyr porc o Gymru’n ei wneud – o ddydd i ddydd.

Gyda Chwpan Rygbi’r Byd bellach yn ei anterth yn Japan; rydym yn gweithio i hyrwyddo buddion iechyd porc mewn diet cytbwys, gyda’n hymgyrch gymdeithasol #TryPorc. Ar ôl ychydig ddyddiau diddorol iawn yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, mae’n deg dweud bod digon o le o hyd i hysbysu’r cyhoedd am eu ffermwyr a’u cyflenwyr lleol – yn ogystal â dangos iddynt pa mor wirioneddol flasus y gall pryd yn cynnwys porc fod.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd cyn-seren rygbi Cymru, Scott Quinnell, ei gariad at borc:

“Mae gennym ni ffermwyr anhygoel a chynhyrchwyr anhygoel yng Nghymru. Po fwyaf y gallwn ddefnyddio cynhyrchion lleol, y mwyaf cynaliadwy y gallwn ni fod”.

Cytunodd Simon Wright, yr adolygydd tai bwyta:

“Nid ydym yn gynhyrchwyr porc enfawr … nid oes modd i ni gynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol. Ond yr hyn y mae hynny’n ei olygu yw bod gennym genfeintiau bach sy’n cael gofal gwirioneddol dda – gan bobl sy’n gyfrifol.”

Trwy gydol yr ymgyrch #TryPorc, byddwn yn anfon hamperi porc at bobl o bob cwr o Gymru sy’n ymddiddori mewn bwyd – yn cynnwys rhai o’r toriadau mwyaf coch a’r rhai iachaf – fel y gallant roi cynnig arnynt eu hunain, yn ogystal â rhannu ein cyfoeth o ryseitiau ar-lein. Bydd ein ffrindiau ac aelodau Porximity, Red Valley Farm o Gaerfyrddin, yn cyflenwi’r nwyddau!

Defnyddiodd y cogydd proffesiynol Luke Thomas borc o Gymru hefyd yn ei rysáit byrger yn ystod ein cystadleuaeth porc yn y Sioe Frenhinol eleni.

 

 

Meddai:

“Gan weithio gyda Porc.Wales ers nifer o flynyddoedd, rwyf wir wedi cefnogi ffermio yng Nghymru a chynnyrch Cymreig, ac yn ceisio hyrwyddo hynny ble bynnag rydw i’n coginio neu’n gweithio”.

Gallwch ddilyn ein hymgyrch #TryPorc drwy gydol Cwpan Rygbi’r Byd. Os ydych chi’n awyddus i gyflwyno’r blas dwyreiniol hwnnw i’ch bwyd yn ystod y cyfnod hwn, yna beth am roi cynnig ar ein rysáit cyri katsu porc newydd.

Os ydych chi’n ystyried blasu hyfrydwch porc yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd eleni, byddem wrth ein bodd yn gweld yr hyn rydych chi’n ei wneud. Tagiwch eich neges neu stori gan ddefnyddio #TryPorc, a byddwn yn rhannu’r gorau ar ein sianeli cymdeithasol. Gallwch ein dilyn ar Facebook, Instagram Twitter!

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This