facebookPixel

Wythnos Genedlaethol y Cigyddion

Mawrth 6, 2020

Mae Wythnos Genedlaethol y Cigyddion (09 -15 Mawrth 2020) yn un o uchafbwyntiau calendr y cigyddion, wrth i gigyddion o amgylch y wlad gael eu hannog i ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a denu cwsmeriaid newydd sy’n mwynhau bwyta cig. Nawr yn ei deuddegfed flwyddyn, mae’n gyfle gwych i gigyddion gynnal digwyddiadau, datblygu cynhyrchion newydd neu dynnu sylw at ansawdd gwych y cig sydd ar gael yn eu siopau.

Gyda chefnogaeth y Meat Trades Journal, mae hefyd yn rhagflaenydd ar gyfer dau ddigwyddiad mawr ar gyfer cigyddion sy’n cael eu cynnal yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae gwobrau Siop Cigydd y Flwyddyn yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd bob blwyddyn ac maent yn cydnabod rhagoriaeth yn y diwydiant. Mae’r gwobrau hyn hefyd yn cynnwys cystadleuaeth Pencampwr y Pencampwyr – prif gystadleuaeth selsig y genedl. Wedi’i chynnal ers dros 30 o flynyddoedd, mae’n dathlu’r selsigen gyffredin ac yn gwahodd cyfuniadau newydd o flasau sy’n cystadlu i ennill y wobr am selsig gorau Prydain.

A dyna ble mae Porc Blasus yn chwarae rhan; gallwch gymryd rhan yng nghystadleuaeth Pencampwr y Pencampwyr drwy ennill cystadlaethau selsig rhanbarthol sy’n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein cystadleuaeth i gyflwyno eich Selsig Gorau, sydd wedi ei chynnal yn Sioe Frenhinol Cymru dros yr ychydig hafau diwethaf. Oinc Oink oedd yn fuddugol yn 2018 a chafodd y cwmni ei goroni’n Bencampwr y Pencampwyr! Cafodd enillwyr y llynedd o Puff Pigs eu curo wrth iddynt gystadlu am y teitl cenedlaethol, ond roeddem wrth ein bodd â’u selsig tsili a garlleg a gynhyrchwyd o’u moch cyfrwyog Prydeinig prin.

Mae Wythnos Genedlaethol y Cigyddion ei hun yn gyfle gwych i rannu eich cynnyrchgyda’ch cwsmeriaid. Meddyliwch am arddangosfeydd newydd i ddenu pobl newydd trwy’r drws a pharhau i’w denu nôl i brynu’r cynhyrchion rydych yn eu cyflenwi. Atgoffwch bobl nad ydynt yn gallu siarad â silff yn yr archfarchnad a rhowch y gwasanaeth a’r cyngor o’r radd flaenaf iddynt sydd wedi gwneud eich busnes yr hyn ydyw heddiw.

Os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch, mae croeso i chi gyfeirio cwsmeriaid at adran ryseitiau Porc Blasus ar gyfer prydau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd y gallant eu coginio gan ddefnyddio cynhyrchion a brynwyd yn uniongyrchol gennych chi – eu cigydd lleol.

Gallwch ddilyn popeth sy’n ymwneud ag Wythnos Genedlaethol y Cigyddion drwy eu dilyn ar Twitter a hefyd gan ddefnyddio hashnod #WythnosGenedlaetholyCigyddion.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This