facebookPixel

Wythnos Genedlaethol Cigyddion 2022

Mawrth 7, 2022

Mae Wythnos Genedlaethol Cigyddion yn un o uchafbwyntiau calendr cigyddiaeth y DU, gyda chigyddion ledled y wlad yn cael eu hannog i ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a denu pobl newydd sy’n dwlu ar gig. Bydd Wythnos Genedlaethol Cigyddion 2022, sy’n cael ei chynnal eleni rhwng 07 a 13 Mawrth, yn dathlu cigyddion manwerthu ledled y DU sydd wedi cefnogi cymunedau yn ystod pandemig Covid-19.

Gyda cefnogaeth y Meat Trades Journal, nod y digwyddiad yw tynnu sylw at y gwaith caled a wnaed gan gigyddion dros y flwyddyn ddiwethaf, gan roi cyfle perffaith i gigyddion ymgysylltu â chwsmeriaid presennol ac ennill rhai newydd.

Mae Wythnos Genedlaethol Cigyddion yn gyfle gwych i rannu eich nwyddau gyda’ch cwsmeriaid. Os oes gennych chi unrhyw lyfrynnau dros ben yn dilyn Wythnos Porc o Gymru yn mis Ionawr, dyma’r amser i’w defnyddio nhw!

Os ydych chi’n brin o ysbrydoliaeth, gallwch chi gyfeirio cwsmeriaid at ein hadran ryseitiau Porc Blasus ar gyfer prydau blasus y gallan nhw eu gwneud gan ddefnyddio cynnyrch a brynwyd yn uniongyrchol gennych chi – eu cigydd lleol.

Gall cigyddion gymryd rhan yn y digwyddiad hwn ledled y DU drwy rannu eu straeon, eu delweddau a’u syniadau ar:

Twitter: @MTJ_tweet

Facebook: @MeatTradesJournal/

Instagram: @meat_trades_journal

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This