facebookPixel

Dechreuwch 2021 yn y ffordd iawn – trwy ddathlu cynnyrch lleol a phobl leol

Ionawr 14, 2021

Er mwyn helpu i ysbrydoli arbenigwyr bwyd i wneud y gorau o rai o’r cynhyrchion gwych sydd ar gael ar garreg eu drws, mae cogyddion brwd o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd gyda Hybu Cig Cymru, Menter Moch Cymru  a ffigurau blaenllaw eraill y diwydiant i ddangos pam y dylai cwsmeriaid Cymru ddewis porc lleol yn 2021, a thu hwnt.

Mae Wythnos Porc o Gymru (18 – 24 Ionawr) yn ddathliad blynyddol o gynhyrchwyr a manwerthwyr crefftus yng Nghymru sy’n arbenigo mewn bridio a chyflenwi porc a chynhyrchion porc o ansawdd uchel, o selsig traddodiadol Cymreig i charcuterie Eidalaidd. Gyda thema ‘prynu’n lleol – meddwl yn fyd-eang’ eleni, bydd ffigyrau blaenllaw bwyd Cymru fel Simon Wright o Wright’s Food Emporium ac Owen Morgan o Bar 44 yn arddangos y gorau o borc lleol gyda chyfres o ryseitiau unigryw ar thema fyd-eang.

 

Magu moesegol, cynhyrchu cynaliadwy

Mae Cymru’n gartref i gynhyrchwyr porc ar raddfa fach a chynhyrchwyr crefftus sy’n arbenigo mewn creu cynnyrch unigryw sy’n cael ei fagu â llaw; un o ganlyniadau hyn yw mai dim ond yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd neu mewn siopau annibynnol lleol ar raddfa yr un mor fach, fel cigyddion, y mae eu cynnyrch ar gael yn aml.

Mae’r ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a’r effaith mae’n ei gael ar yr amgylchedd wedi dod yn ffactorau pwysig i gwsmeriaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ers cenedlaethau, mae ffermwyr Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu a chynnal y tirweddau gwledig rydym ni’n eu hadnabod a’u caru, yn gorfforol ac yn ddiwylliannol.

Amlygir pwysigrwydd y diwydiant ffermio ac amaethyddiaeth i les economaidd cymunedau ledled Cymru gan ymchwil sy’n dangos bod hyd at 70 ceiniog o bob punt sy’n cael ei gwario’n lleol gyda BBaCh yn dod yn ôl i’r economi leol.

Agorodd Clive Swan a’i wraig Gail Siop Fferm Swans ger yr Wyddgrug yn 2003, ac ers hynny mae wedi ennill llawer o wobrau mawreddog gan gynnwys Manwerthwr y Flwyddyn a Chigydd Gorau Cymru. Dywedodd Clive:

“Yma yn Swans rydym ni’n frwd dros gynhyrchu’r toriad gorau posibl o gig ar gyfer ein cwsmer, ac mae milltiroedd bwyd, ansawdd ac olrhain yn eithriadol o bwysig i ni. Rydym ni’n dechrau gydag anifeiliaid hapus ac yn cadw moch Cymreig pedigri ein hunain ar gyfer y siop, felly rydym ni’n gwybod popeth am y bywyd maen nhw wedi ei fyw a’i fod yn un da iawn.

“Mae ein cenfaint o foch yn tyfu ac yn tyfu – dechreuom ni gyda dau fochyn yn 2010 ac erbyn hyn mae gennym ni dros 100! Moch maes yw ein holl foch; mae rhai perchyll y tu allan ers eu geni, ond yn y gaeaf mae ganddyn nhw sied fawr i’w cadw’n gynnes braf. Gallwch weld rhai o’r moch hŷn y tu allan i’r siop fferm yn crwydro yn y caeau gyda chytiau i gysgodi ynddyn nhw.

“Fel gyda phob math o ffermio, mae cadw moch yn golygu llawer o waith ond rydym ni wrth ein bodd. Mae’n ffordd o fyw y mae ein cwsmeriaid yn ei chefnogi pan maen nhw’n prynu ein cynnyrch; maen nhw’n dweud ie, dyma’r math o anifail annwyl, sydd wedi ei fagu â llaw rydym ni eisiau ei weld.”

Pam mai NAWR yw’r amser iawn i ddechrau prynu’n lleol

Mae arbenigedd ac ymdrech pawb yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau cyflenwad parhaus o fwyd, mewn amgylchiadau anodd dros y flwyddyn ddiwethaf, yn amlwg i bawb ei weld.

Gall cwsmeriaid helpu i gadw’r ymdeimlad hanfodol hwnnw o gymuned yn fyw drwy brynu bwyd o ffynonellau lleol o garreg eu drws, ym mis Ionawr eleni a thrwy wneud newid parhaol yn eu harferion siopa yn y dyfodol hefyd.

Nid yw’r ffermwr moch a’r cynhyrchydd porc Graeme Carter o Fferm Red Valley yn Sir Gaerfyrddin wedi gadael i 2020 ei drechu. Ar ôl gosod Record Byd Guinness yn 2019 am wneud y mwyaf o soch mewn sachau mewn munud, ar ddiwedd 2020 llwyddodd i fynd â’i fusnes i’r lefel nesaf ac agor siop gig ar ei safle. Dywedodd Graeme:

“Mae fy mlwyddyn wedi bod yn amrywiol – o osod record y byd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn 2019 a manteisio ar hynny yn y flwyddyn newydd, i gael coronafeirws yn ein taro ni ym mis Mawrth. Ond roeddwn yn benderfynol o wireddu’r nodau roeddwn i eisoes wedi’u gosod i agor siop gig ar y fferm – rydym ni wedi llwyddo i wneud hynny yn ogystal ag ymdopi â’r gwaith o redeg ein trelar siop fferm symudol o ddydd i ddydd fu’n gwerthu drwy’r flwyddyn erchyll hon rydym ni i gyd wedi’i chael!

“Rydw i wrth fy modd i allu dweud fy mod wedi cyflawni hynny, ar ôl heriau 2020, ac rwy’n dal yn bwriadu agor siop barhaol yn y dyfodol agos iawn.

“Diolch yn fawr i’m cwsmeriaid ffyddlon – diolch iddyn nhw rydw i wedi gallu parhau i wneud yr hyn rwy’n ei garu; gofalu am y moch a chreu cynnyrch gwirioneddol arbennig gyda’r cig rydym ni’n ei fagu ar ein fferm. Rwy’n cael llawer allan o’r hyn rwy’n ei wneud, ac rwy’n gwybod bod hynny’n dangos yn y cynnyrch terfynol – mae’r cwsmeriaid yn gweld ac yn blasu hynny, a dyna yw holl bwrpas ffermio.”

Safbwynt yr arbenigwr bwyd

Magwyd yr awdur bwyd a’r darlledwr sydd bellach yn berchennog bwyty, Simon Wright, yng Nghaerdydd, ac ar ôl golygu’r AA Restaurant Guide a chynghori ar Kitchen Nightmares Channel 4 gyda Gordon Ramsay, sefydlodd ei fferm ei hun a daeth yn bartner ym mwyty Y Polyn. Ar hyn o bryd mae’n rhedeg Wright’s Food Emporium yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.

I ddathlu Wythnos Porc o Gymru, mae Simon yn rhannu rysáit un o brydau unigryw ei fwyty: brechdan Bol Porc Cubano. Mae gwreiddiau’r frechdan boblogaidd hon yn Fflorida, ble cafodd ei chreu gan fewnfudwyr Ciwbaidd fel cinio oedd yn llenwi’r bol ac yn hawdd ei fwyta; mae’r frechdan ar ei gorau wedi’i gweini’n boeth ac yn diferu o gig suddog wedi’i fwydo, caws, picls a mwstard. Dywedodd Simon:

“I mi, mae porc ar yr un lefel â chig oen fel rhai o’r bwydydd gorau rydyn ni’n eu cynhyrchu yng Nghymru. Does dim rhaid i fwyd gwych fod yn gymhleth, ac fel mae fy rysáit yn ei dangos, bydd blas cynhwysion o ansawdd yn disgleirio bob tro.

“Mae ein brechdan Bol Porc Cubano yn hyfryd ac mae’n un o’n prydau mwyaf poblogaidd yn y bwyty. Ond mae’n gwbl ddibynnol ar ansawdd y porc, oherwydd dyna’r prif gynhwysyn. Rwy’n credu’n gryf mewn coginio gyda chynnyrch lleol o ansawdd ac rydyn ni’n lwcus iawn yng Nghymru bod yma gynhyrchwyr porc gwych.”

 

 

Barn arbenigwr y farchnad

Ychwanegodd Kirstie Jones, Swyddog Datblygu’r Farchnad Hybu Cig Cymru:

“Mae Wythnos Porc o Gymru yn gyfle gwych i helpu i roi hwb mawr ei angen i’n heconomi leol. Mae angen y cymorth ychwanegol hwnnw gan gwsmeriaid nawr, yn fwy nag erioed, ar y cysylltiadau hanfodol yn ein cadwyn cyflenwi bwyd – ein ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau manwerthu.

“Mae cefnogi eich cynhyrchydd porc nid yn unig yn helpu busnesau teuluol a ffermio lleol a’r economi, ond hefyd yn helpu’r amgylchedd drwy leihau nifer y milltiroedd bwyd.

“Er bod bwrlwm ym mis Ionawr yn ystod Wythnos Porc o Gymru yn gam i’r cyfeiriad cywir, byddai prynu’n lleol mor aml â phosibl yn adduned blwyddyn newydd wych ar gyfer y tymor hir. Drwy ei wneud yn ffordd arferol newydd o siopa, gallem ni wedyn brofi 2021 a thu hwnt mwy blasus, mwy ffres, cynaliadwy a llewyrchus.”

Mae Menter Moch Cymru hefyd yn cefnogi Wythnos Porc o Gymru, ac yn helpu i ddatblygu’r diwydiant moch yng Nghymru, gan ddarparu cymorth, hyfforddiant a chyngor i gynhyrchwyr a busnesau eraill yn y sector. Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch:

“Mae proffil y diwydiant porc yng Nghymru yn parhau i dyfu; mae dathlu’r gwaith gwych mae ffermwyr a chyflenwyr Cymru yn ei wneud i greu’r cynnyrch unigryw hwn yn hanfodol i gynyddu’r ymwybyddiaeth honno a thyfu’r galw ymhellach yma.

“Rydym ni mor falch o’r cynnyrch terfynol sy’n dod o Gymru – ei ansawdd, ei flas a’i hyblygrwydd eithriadol – ac rydym ni’n meddwl ei fod yn haeddu llawer iawn o sylw gan ei fod yn gymaint mwy na golwythion a chinio dydd Sul! Os ewch chi i wythnosporc.cymru gallwch ddod o hyd i lawer o ryseitiau newydd deniadol i’ch ysbrydoli yn y gegin.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This