facebookPixel

Wythnos Porc o Gymru 2019

Ionawr 14, 2019

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi’r Wythnos Porc o Gymru (WPG) gyntaf erioed sy’n cael ei chynnal rhwng yr 21 a’r 27 Ionawr 2019.

Mae’n fenter a ddyluniwyd gan Porc Blasus a Hybu Cig Cymru i dynnu sylw defnyddwyr ar draws Cymru at ansawdd ac argaeledd cynnyrch o Gymru. Cefnogir y wythnos yn falch gan Menter Moch Cymru – datblygu’r sector moch yng Nghymru.

Yn ystod yr wythnos, byddwn yn canolbwyntio ar hyblygrwydd porc o Gymru trwy ryseitiau blasus Chef Angela Gray. Agorodd Angela ddrysau ei hysgol goginio yn Llanerch Vineyard (fe’i pleidleisiwyd yn un o’r 10 ysgol goginio orau yn y DU) er mwyn paratoi prydau hardd o wahanol ddarnau o borc, wedi’i gyflenwi gan Black & White Pig Company o Ben-y-bont ar Ogwr.

Bydd ein haelodau Porc Blasus yn cymryd rhan yn yr hwyl ac yn addurno’u mannau busnes gyda baneri a phosteri i dynnu sylw at y digwyddiad, y gobeithiwn a fydd yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol. Mae hyn oll er mwyn hysbysu cwsmeriaid hen ac ifanc am ansawdd y porc a gaiff ei fagu ar garreg ein drws, yn dilyn llwyddiant ein cystadleuaeth Cyflwyno eich Selsig Gorau a’r Bwyty Selsig Crand Unnos yng Nghaerdydd yn 2018.

 

 

Ar y cyfan mae cenfeintiau Cymreig yn llai, wedi’u magu’n egwyddorol ac mae cynaladwyedd yn allweddol ar gyfer dyfodol y diwydiant. Mae hyn yn cyfrannu at ansawdd y cig sy’n cael ei roi ar blât y cwsmer.

Os hoffech ymuno â ni wrth ledaenu’r angerdd am borc o Gymru, yna gallwch ddefnyddio #PorcWeek | #WythnosPorc wrth ddefnyddio’ch cyfryngau cymdeithasol a dangos sut rydych yn cymryd rhan. Gallech drefnu eich noson gŵn poeth eich hun neu geisio rhywbeth mwy uchelgeisiol gan ddefnyddio’r ryseitiau y byddwn yn eu rhoi i chi dros yr wythnos.

At hynny, mae’r angerdd am borc yn ymestyn i fis Chwefror am fod y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd yn dechrau ddydd Mawrth 05 Chwefror ac wrth gwrs, mae’n flwyddyn y mochyn!

Hir oes i lwyddiant yr Wythnos Porc o Gymru gyntaf – diolch am eich cefnogaeth barhaus.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This