Roedd yr haul yn tywynnu ar Porc Blasus ac ein Stondin Selsig Dros Dro yng Nghaerdydd ar Medi 24.
Am un diwrnod yn unig, fe gyd-weithion gyda Huw ac Ela o Oinc Oink – enillwyr ein cystadleuaeth Cyflwynwch eich Selsig Gorau yn y Ffair Aeaf eleni – i gynnig blas o borc lleol, o ansawdd i weithwyr a siopwyr y ddinas.
Ar ben hynny, roedd y cyfan yn rhad ac am dim!
Yn wahanol i stondinau dros dro arferol, cafodd cwsmeriaid brofiad arbennig gyda byrddau, cadeiriau a staff i weini’r selsig iddynt gyda cynfennau o’u dewis nhw.
Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru (HCC) oedd cogydd y diwrnod ac wrth i amser cinio nesau, roedd arogl y selsig ar hyd Heol y Frenhines yn denu a dechreuodd y ciwiau ffurfio.
Y selsig dan sylw oedd rhai arbennig Oinc Oink, wedi eu gwneud o’r porc gorau yng Nghymru a cheddar clasurol Hufenfa De Arfon. Wnaethon nhw ddim para’n hir; o fewn 90 munud roedd 150 o slesig wedi eu coginio a’u gweini i’r cyhoedd llwglyd.
O ganlyniad i’r sylw yn y wasg leol a chenedlaethol, roedd y digwyddiad yn llwyddiant ac rydym yn gobeithio ei fod wedi amlygu argaeledd porc o safon yng Nghymru ac wedi hysbysu’r cyhoedd am ein haelodau Porc Blasus – yn enwedig Oinc Oink a siaradodd â llawer o gwsmeriaid bodlon ar y diwrnod.
Dim ond cwpl o oriau y cymerodd y digwyddiad ac roedd cart selsig Porc Blasus wedi ei gadw tan ddiwrnod arall – efallai y Byddwn yn dod heibio’ch tref neu ddinas chi’n fuan, cadwch lygad allan!