facebookPixel

Stondin Selsig dros dro

Medi 18, 2018

Bydd stondin dros dro yng Nghaerdydd yn rhoi cŵn poeth moethus am ddim, gyda gwasanaeth bwrdd arbennig am un diwrnod yn unig ar 24 Medi 2018.

Bydd y stondin yn aror am 12yh tu allan i Ganolfan Capitol yng Nghaerdydd, gyda siopwyr yn cael eu hannog i gyrraedd yn gynnar oherwydd argaeledd cyfyngedig y selsig.

Mae’r digwyddiad yn cael ei redeg gan Porc Blasus, cartref ffermwyr, cynhyrchwyr a chigyddion porc arbenigol Cymru, mae’r digwyddiad unigryw hwn yn anelu i arddangos y gorau o borc Cymru i bobl Caerdydd.

Bydd tîm o weinyddion yn cyfarch cwsmeriaid ac yn cynnig gwasanaeth bwrdd moethus wrth iddynt fwynhau cynnyrch porc gorau Cymru, pob un wedi’i goginio gan Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru (HCC).

Esbonia Kirstie Jones, Swyddog Datblygu’r Farchnad HCC:

“Rydyn ni’n wirioneddol angerddol i gael rhwydwaith o gyflenwyr sy’n falch o gynhyrchu porc blasus o ansawdd yng Nghymru. Mae ein porc yn cael ei fagu mewn buchesi llai a’i fagu am gyfnod hirach, sy’n golygu blas gwell. Mae’r hinsawdd a’r dirwedd yng Nghymru hefyd yn darparu amgylchedd naturiol i gynhyrchu porc o ansawdd.

“Dyma pam rydym eisiau arddangos y gorau o’n selsig moethus a phrofi fod dim angen cegin pum seren arnoch i gael profiad bwyd gwych pan mae’n dod i borc o Gymru.”

Nid oedd dewis y selsig gorau ar gyfer y diwrnod yn hawdd:

“Ym mis Gorffennaf, yn y Ffair Aeaf, gwnaethom gynnal cystadleuaeth ymhlith ein cynhyrchwyr yn gofyn iddynt ‘Gyflwyno eu Selsig Gorau’, fel ein bod yn gallu dod o hyd i’r cyflenwr perffaith ar gyfer y stondin dros dro.

“Roedd pob cais o ansawdd uchel iawn ac roedd yn ddewis anodd, ond gyda chymorth y beirniad Scott Quinnell, dewisiom Oinc Oink o Wynedd, gyda’u cyfuniad anhygoel o’r porc gorau o Gymru, ynghyd â Cheddar Clasurol Cymreig Hufenfa De Caernarfon.”

Ymhelaetha Kirstie:

“Rydyn ni’n gyffrous iawn i agor ein Stondin Selsig Dros Dro ac ni allwn aros i arddangos y selsig Cymreig gwych gan Oinc Oink, yn hollol rhad ac am ddim.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl Caerdydd yn mwynhau ein stondin cŵn poeth arbennig ac yn mwynhau cynnyrch gwirioneddol leol, gyda gwasanaeth aros pum seren i gyd-fynd”.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This