facebookPixel

Red Valley Farm yn ennill cystadleuaeth selsig gorau Cymru

Tachwedd 19, 2021

Mae Red Valley Farm yng Nghaerfyrddin yn dathlu cyrraedd y brig yng nghystadleuaeth ‘Cyflwynwch eich Selsig Gorau 2021’ Hybu Cig Cymru, gan bod eu Selsig Baedd Gwyllt ac Afal wedi’u dewis fel y sosejys gorau yng Nghymru.

Llwyddodd Red Valley Farm i guro Cwm Farm Charcuterie yng Nghwm Tawe, a Siop Gigydd Daniel Morris yn yr Wyddgrug a Dinbych, yng nghystadleuaeth Cyflwynwch eich Selsig Gorau eleni, gan greu cryn argraff ar y beirniaid Scott Quinnell (cyn-chwaraewr rygbi ac un sy’n dwlu ar selsig) ac Elwen Roberts (cynrychiolydd Hybu Cig Cymru).

Meddai Scott Quinnell:

“Gwnaethon ni feirniadu’r selsig yn eu cyflwr amrwd ac wedi’u coginio, ond o’r cychwyn cyntaf gwnaeth Selsig Baedd Gwyllt ac Afal Graeme ac Andy argraff fawr arnon ni. Roedden nhw’n edrych yn anhygoel, roedd y cysondeb yn wych ac reodden nhw’n coginio’n berffaith. O ran blas, wnaethon nhw ddim siomi. Roedden nhw’n llawn blas – roedd dyfnder blas y baedd yn amlwg – a gwnaeth y ddau ohonon ni eu mwynhau’n fawr. Da iawn chi bois, daliwch ati gyda’r gwaith gwych!”

Gwyliwch y rhaglen feirniadu yma os wnaethoch chi ei methu ar Facebook:

 

Mae Red Valley Farm bellach yn gymwys yn awtomatig ar gyfer cystadleuaeth Pencampwyr Selsig y DU ac Iwerddon, a gynhelir yng Ngwobrau Siop Cigydd y Flwyddyn ym mis Ebrill 2022.

Mae Red Valley Farm, sy’n cael ei redeg gan y perchnogion, y ffrindiau a’r partneriaid busnes Andy a Graeme, yn magu eu baeddod gwyllt eu hunain, ac mae cynhyrchu cynhyrchion porc o safon wedi bod yn llafur cariad iddyn nhw byth ers cymryd y fferm drosodd gan rieni Andy ychydig flynyddoedd yn ôl.

Meddai Andy: “Roedd fy rhieni’n cadw amrywiaeth o anifeiliaid, ond wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn doedden nhw ddim yn gallu ymdopi â’r fferm rhagor, felly fi oedd yn gyfrifol am hynny. Damwain oedd dechrau arbenigo mewn cadw moch, gan ein bod wedi cael baedd yn anrheg i helpu i glirio’r ddaear ar ôl plannu coed. Mae popeth ar y fferm heddiw wedi tyfu yno, yn llythrennol, o’n dau faedd bridio Minnie a Mouse ac un mochyn arall.”

Wrth sôn am ennill y gystadleuaeth, dywedodd Graeme:

“Rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod a bod ein selsig wedi’u henwi fel y selsig gorau yng Nghymru! Daethon ni’n ail yng nghystadleuaeth Cyflwynwch eich Selsig Gorau yn 2019, felly rydw i wrth fy modd ein bod ni bellach wedi cyrraedd y brig!

“Rydyn ni’n creu nifer o wahanol selsig â blas ond ar y cyfan ein gwerthwr gorau, sy’n gwerthu’n wych a dweud y gwir, yw ein byrgyrs a’n selsig baedd ac afal. Mae ganddyn nhw flas unigryw iawn – maen nhw’n sicr yn wahanol i’r sosej arferol – ac rydyn ni’n gweld bod pobl wrth eu bodd yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol wrth wybod eu bod hefyd yn cael cynnyrch o’r safon uchaf, y gellir ei olrhain.

“Rydyn ni’n bwydo ein baeddod a’n moch ar y cynnyrch gorau sydd ar gael, gan gynnwys grawn bragwyr gan ddau fragwr lleol, ac eleni rydyn ni’n dod yn hunangynhaliol am y tro cyntaf trwy gynhyrchu ein gwair ein hunain i’n moch – maen nhw’n bwyta’n well na ni weithiau!

“Yn y pen draw, ein busnes ni yw hwn, y moch yw ein dyfodol, a dyna sy’n ein clymu i Red Valley Farm ac yn sicrhau y bydd yn dal i fod yma i’n plant, a hyd yn oed i’w plant nhw, gobeithio.”

Dewch i gwrdd â Graeme ac Andy ar y fferm:

 

Mae Cymru yn gartref i lawer o gynhyrchwyr porc crefftus ar raddfa fach sy’n arbenigo mewn creu cynnyrch unigryw, wedi’i fagu â llaw. Yn aml dim ond gan y cynhyrchydd neu mewn siopau annibynnol lleol ar raddfa yr un mor fach y mae eu cynhyrchion ar gael i’w prynu, fel cigyddion, sy’n ei wneud yn gynnyrch bwyd mwy cynaliadwy ac yn cynhyrchu llai o filltiroedd bwyd.

Dywedodd Philippa Gill, Swyddog Gweithredol Marchnata Brand Hybu Cig Cymru:

“Rydyn ni mor ffodus o’n teulu gwych o gynhyrchwyr Porc Blasus yng Nghymru – mae safon y selsig bob amser yn gwneud dewis enillydd yn dasg eithaf anodd i ni! Gallwch ymweld â’n gwefan newydd sbon yn porcblasus.cymru i ddod o hyd i’ch cynhyrchydd porc agosaf, a chwrdd â llawer o selogion porc – o ffermwyr i gogyddion – heb sôn am roi cynnig ar rai o’n 60 o ryseitiau porc blasus gartref.”

Ewch i www.redvalleywales.co.uk i brynu cynhyrchion ar-lein a chael eu danfon gan negesydd, neu i gael cyfarwyddiadau i’w siop fferm sydd ar agor ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This