- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4. Pwyswch y darn o gig er mwyn i chi weithio allan faint o amser sydd ei angen ar y cig yn y popty: 30 munud am bob 450g / ½ kg, + 30 munud (ar gyfer cymhedrol).
- Sychwch y croen a’i ricio’n ddwfn gyda chyllell finiog. Brwsiwch gydag olew ac ysgeintiwch â halen. Gosodwch y porc mewn tun rhostio wedi’i leinio â ffoil ac ychwanegwch yr afalau, seidr a ffenigl.
- Crensiwch y ffoil o gwmpas y cig ond gadewch y croen heb ei orchuddio i adael i’r grofen galedu.
- Rhowch y tun rhostio yn y popty am yr amser angenrheidiol.
- Tynnwch y darn o borc o’r popty a gadael iddo sefyll am 10- 15 munud cyn torri’r cig yn sleisiau trwchus.
- Gweinwch gyda thatws stwnsh hufennog, cêl cyrliog a diferwch y suddion coginio dros bob dim.