- Cynheswch y popty i 200°C / ffan 180°C / Nwy 6.
- Llenwch badell gyda dŵr oer, torrwch y tatws yn sglodion a rhowch nhw yn y badell. Dewch â’r dŵr i’r berw a lledferwi’r tatws am 5 munud, cyn eu draenio’n dda.
- Ychwanegwch yr olew llysiau i hambwrdd pobi mawr a chymysgu’r tatws i mewn gyda halen, pupur a’r powdr garlleg.
- Coginiwch am 30 munud nes eu bod yn grimp ac yn euraidd. Os nad ydyn nhw’n ddigon crimp ar ôl 30 munud, rhowch ysgwydiad i’r hambwrdd a’i roi yn ôl i mewn am 5-10 munud arall.
- Tra mae’r sglodion yn coginio, gwnewch y schnitzel a’r saws afal. Rhowch y stêcs lwyn porc mewn cling ffilm a defnyddiwch badell neu rolio pin i’w fflatio.
- Gwnewch bowlen o flawd wedi’i gymysgu â’r halen garlleg, pupur a phaprica mwg. Mewn powlen arall, craciwch ddau wy a’u curo. Mewn trydedd powlen, arllwyswch y briwsion bara euraidd i mewn.
- Cymerwch eich stêcs porc fflat a’u trochi yn gyntaf yn y blawd, yna’r wy, yna’r briwsion bara, nes eu bod wedi’u gorchuddio’n dda. Ailadroddwch gyda’r stêc arall. Rhowch y rhain o’r neilltu tra byddwch chi’n gwneud y saws.
- Ar gyfer y saws afal, sleisiwch yr afal yn dalpiau a sleisiwch y winwnsyn yn denau. Ffriwch nhw gydag ychydig o olew am 6-7 munud nes iddyn nhw ddechrau meddalu. Ychwanegwch y stoc llysiau, halen a phupur a mwstard grawn cyflawn. Coginiwch y cyfan nes ei fod wedi tewychu gydag ansawdd tebyg i grefi.
- Ychwanegwch ychydig o olew llysiau i badell ffrio fawr ar wres canolig-uchel a ffriwch y schnitzel am tua 3 munud bob ochr nes ei fod yn euraidd. Rhowch o’r neilltu ar blât poeth wedi’i orchuddio â phapur cegin i ddraenio unrhyw olew dros ben.
- Rhowch y schnitzel, sglodion a saws afal ar blat a’u gweini gyda llysiau o’ch dewis – dwi wrth fy modd â brocoli Tenderstem ac asbaragws gyda hwn.
Schnitzel porc gyda sglodion popty, mwstard a saws afal gan Little Welsh Foodie
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 35 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 stêc lwyn porc
- 100g blawd plaen
- 1 llwy de halen garlleg
- 1 llwy de pupur du
- 1 llwy de paprica mwg
- 2 wy mawr
- 50g briwsion bara euraidd
- 1 llwy fwrdd olew llysiau, i ffrio
- llysiau tymhorol, i weini
Ar gyfer y sglodion:
- 5 taten fawr wen
- 3 llwy fwrdd olew llysiau
- pupur a halen
- 1 llwy de powdr garlleg
Ar gyfer y saws afal:
- 1 afal, wedi’i sleisio’n dalpiau
- 1 winwnsyn gwyn, wedi’i sleisio’n denau
- 200ml stoc llysiau
- 2 lwy de mwstard grawn cyflawn
- pupur a halen
Dull
Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2022, rydyn ni a @littlewelshfoodie – sef y blogiwr bwyd o ogledd Cymru, Naomi Spaven – wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.
Dyma beth mae Naomi yn ei ddweud am ei rysáit:
“Rydw i wrth fy modd â’r pryd poblogaidd schnitzel o Awstria – mae’r briwsion bara euraidd wedi’u ffrio a’r porc blasus yn fwyd cysur syml, di-ffws, delfrydol a fydd yn plesio pawb gartref. Mae’n siŵr o fod yn llwyddiant ysgubol.”