- Cynheswch ychydig o olew mewn sosban fawr, ychwanegwch y sleisys porc, garlleg a chennin a choginio am tua 2-3 munud.
- Pan fyddant wedi brownio ychwanegwch y reis, yr halen a phupur a chymysgu’r cyfan.
- Pan fydd y cyfan wedi cymysgu’n dda ychwanegwch y rhan fwyaf o’r stoc poeth a chymysgu’n dda – cadwch ychydig o’r stoc rhag i’r risotto sychu gormod yn nes ymlaen.
- Rhowch gaead ar y sosban a gadael y risotto i ffrwtian am tua 15-20 munud. Gallwch ychwanegu’r stoc ychwanegol os yw’r risotto yn mynd yn rhy sych.
- Pan fydd y risotto wedi coginio ychwanegwch y pwdin gwaed a’r pys a chynhesu’r cyfan drwyddo.
- Rhowch berlysiau ffres a chaws parmesan ar ei ben a’i weini.
Risotto porc gyda phwdin gwaed, cennin a phys
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 35 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 225g o ganol lwyn ffiled porc wedi’i dorri’n sleisys tenau
- 1 llwy fwrdd o olew olewydd
- 1 ewin garlleg, wedi’i falu
- 2 genhinen fach, wedi’u golchi a’u sleisio’n denau
- 225g o reis risotto arborio
- pupur du
- 750-900ml stoc porc
- 75g o bwdin gwaed wedi’i dorri’n giwbiau bach
- 150g o bys wedi rhewi
- 1 llwy fwrdd o fasil a mintys ffres, wedi’u torri’n fras
- caws Parmesan wedi’i gratio