- Cynheswch 1 llwyaid de o olew mewn sosban a ffrio’r porc gyda’r nionyn a’r reis am 2-3 munud.
- Ychwanegwch y madarch cymysg a’r stoc, a’i godi i’r berw, ychwanegwch halen a phupur a’i fudferwi’n araf am oddeutu 30 munud neu nes bod y reis yn barod a’r holl hylif wedi’i amsugno. (Ychwanegwch fymryn rhagor o stoc os dymunwch i gael y trwch iawn).
- Ychwanegwch yr asbaragws a rhowch ddail roced drosto a’i weini. Gweinwch gyda chwlffyn o fara crystiog os oes angen.
Risotto porc, madarch ac asbaragws
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 35 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 225g o ffiled porc coch, wedi ei dorri’n stribedi tenau
- 1 llwyaid de olew
- 1 nionyn wedi’i dorri
- 150g reis risotto (arborio)
- 50g fadarch cymysg
- pupur du
- 100g o asbaragws, wedi’u torri’n ddarnau mawr
- dail roced
- 600ml o stoc porc