- Sesnwch yr ysgwydd porc gyda halen a phupur. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a serio’r cig nes ei fod wedi ei frownio. Rhowch hi mewn sosban fawr neu os oes gennych chi un, popty araf.
- Ychwanegwch gynhwysion y potes, dod â’r cyfan i’r berw a mudferwi’n ysgafn am 3-4 awr mewn sosban (neu 6 awr ar wres isel mewn popty araf).
- Pan fo’r porc yn frau ac wedi ei goginio drwyddo, tynnwch allan o’r potes a gadewch iddo oeri ychydig cyn ei rwygo’n ddarnau llai. Yn union cyn gweini, ffriwch y darnau porc mewn llond llwy fwrdd o olew sesame i’w gwneud yn grimp.
- Hidlwch y potes er mwyn cael gwared ar unrhyw dalpiau (gellir rhoi stoc cyw iâr neu stoc llysiau ar ben yr hylif os oes angen).
- I weini, rhowch y nwdls wedi eu coginio mewn powlenni, tywallt y potes poeth a’r darnau porc i mewn cyn rhoi llysiau o’ch dewis ar eu pen. Yn olaf, ysgeintiwch gyda hadau sesame wedi eu tostio a tsili coch.
Ramen ysgwydd porc
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 4 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 1kg darn ysgwydd porc
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 llwy fwrdd olew sesame
- pupur a halen
Ar gyfer y potes:
- 2 litr stoc cyw iâr neu lysiau
- 1 winwnsyn mawr, wedi ei dorri’n dalpiau
- 2 foronen, wedi eu sleisio’n fras
- 1 ffon seleri, wedi ei thorri’n fras
- 3 ewin garlleg, wedi eu sleisio
- 1 tsili coch, wedi ei haneru
- darn 3cm o wraidd sinsir, wedi ei dorri’n fras
- 4 llwy fwrdd saws soi golau â llai o halen
I orffen:
- pecyn 250g nwdls ramen, wedi eu coginio yn ôl cyfarwyddiadau’r pecyn
- llysiau, fel: spigoglys neu pak choi, moron wedi eu torri’n fatsys tenau, shibwns wedi eu torri’n denau, egin ffa, egin bambŵ wedi eu torri, cennin
- wy wedi ei ferwi’n lled feddal
- hadau sesame, wedi eu tostio
- tsili coch wedi ei sleisio’n denau neu haenau tsili
Dull
Mae’r ysgwydd porc yn cael ei choginio’n araf, gan greu potes hyfryd sy’n llawn blas – rysáit wych i bopty araf neu ar y stof. Mae’r cig brau’n cael ei rwygo a’i gyfuno â llysiau ffres dros nwdls chwilboeth.