- Cynheswch y ffwrn i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
- Mewn powlen fach, cymysgwch gynhwysion y marinâd a’i arllwys dros y cytledi neu olwython porc, gan sicrhau bod y ddwy ochr yn cael eu gorchuddio. Gadewch i orffwys am o leiaf 20 munud, wrth i chi baratoi’r llysiau.
- Rhowch y tatws a’r pannas mewn sosban o ddŵr berw a’u coginio am 8 munud, cyn eu draenio.
- Mewn powlen fawr, cymysgwch yr olew, y pupur a halen a’r saets sych. Ychwanegwch yr holl ffrwythau a llysiau, gan gynnwys y tatws a’r pannas; cymysgwch y cyfan yn dda a’u trosglwyddo i dun rhostio.
- Gosodwch y porc a’r soch mewn sach ar ben y llysiau, ychwanegwch unrhyw farinâd sydd dros ben, a choginio’r cyfan am ryw 30 munud tan fod y cig wedi coginio.
- Ar ôl 30 munud tynnwch y porc allan a’i lapio’n ysgafn mewn ffoil i orffwys. Gwiriwch fod y llysiau wedi coginio a brownio – efallai y bydd angen eu rhoi’n ôl yn y ffwrn am 10 munud arall.
- Gweinwch mewn powlenni bas gyda bara ffres talpiog.
Pryd hambwrdd pobi porc Nadoligaidd
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 40 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 cytled neu olwyth porc
- 8-12 soch mewn sach
Ar gyfer y marinâd:
- 2 satswma, sudd
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 llwy de sinamon mâl
- 1 llwy fwrdd mêl
Ar gyfer y llysiau:
- 400g pannas, wedi eu plicio a’u haneru neu eu chwarteru
- 350g tatws bach
- 2 winwnsyn coch, wedi eu torri’n dalpiau
- 250g sbrowts, wedi eu haneru os ydyn nhw’n fawr
- 2 beren, wedi eu chwarteru
- 2 satswma, wedi eu haneru
- 2 lwy fwrdd olew
- pupur a halen
- 1 llwy de saets sych
Dull
Mae’r pryd un hambwrdd hwn yn ddelfrydol ar gyfer cinio neu swper adeg y Nadolig, pan rydych chi eisiau mwynhau bwyd braf fydd yn coginio ar ei ben ei hun tra eich bod chi’n ymlacio!