- Cynheswch y popty ymlaen llaw i /180˚C / 160˚C ffan / Marc Nwy 4.
- Cynheswch olew mewn pot mawr addas i’r popty ac ychwanegwch y porc, selsig, cig moch, winwns a garlleg.
- Cynheswch y gymysgedd yn raddol nes i’r cig ddechrau brownio a’r winwns feddalu.
- Ychwanegwch weddill y cynhwysion a dod â’r cyfan i’r berw. Pan fydd y gymysgedd yn berwi, rhowch gaead drosti a choginio yn y popty am 1½ awr neu nes bydd y porc yn feddal.
- Ewch ati i wneud y twmplenni tra bydd y porc yn coginio. Rhowch yr holl gynhwysion ar gyfer y twmplenni mewn powlen ac ychwanegwch ychydig o ddwˆ r oer i’w clymu gyda’i gilydd. Yna, lluniwch 8-10 twmplen o’r gymysgedd.
- Rhowch y twmplenni ar ben y porc a’u coginio am 20 munud (10 munud gyda’r caead a 10 munud hebddo).
- Gweinwch gyda llysiau tymhorol wedi’u stemio.
Pot porc paprica
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 450g o ysgwydd neu goes porc heb lawer o fraster, wedi’i thorri’n giwbiau
- 3 selsigen porc a tsili sbeislyd, wedi’u troelli a’u torri yn eu hanner
- 3 sleisen o gig moch mwg heb lawer o fraster, wedi’u torri’n ddarnau
- 2 lwy fwrdd o olew llysiau
- 2 winwnsyn, wedi’u torri ‘n dalpiau
- 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
- 1 pupur coch, heb yr hadau, wedi’i dorri yn ddarnau bach
- 2 dun 400g o domatos wedi’u torri
- 2 lwy fwrdd o baprica mwg
- 1 llwy de o siwgr brown meddal
- 150ml o stoc porc
- 1 tun 200g o ffa coch, wedi’u rinsio a’u draenio
- ½ tun o ffa menyn, wedi’u rinsio a’u draenio
Ar gyfer y twmplenni:
- 100g o flawd codi
- 40g o siwed
- ½ tun o ffa menyn, wedi’u rinsio a’u draenio
- 2 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
- halen a phupur