- Rhowch y bol mochyn ar fwrdd a’i orchuddio â hanner yr halen a llawer o bupur du, a’u rhwbio’n dda i mewn i’r cig.
- Gadewch iddo fod am 10 munud.
- Torrwch 10 darn o linyn, oddeutu 30cm yr un.
- Gwnewch bast mewn breuan a phestl neu gymysgydd. Dechreuwch falu’r halen môr a’r garlleg gyda’i gilydd, yna ychwanegu’r gweddill yn araf. Tywalltwch yr olew olewydd i mewn i’w wneud yn bast trwchus braf.
- Gwasgarwch y gymysgedd dros y bol mochyn a rhoi lwyn wedi’i baratoi ar ei ben. Clymwch bob hyn a hyn gyda llinyn.
Dull mygu’n isel ac yn araf
- Gosodwch waelod y mygwr gyda hanner y simne â glo wedi’i gynnau. Cyneuwch yr hanner arall a’i osod yn y canol. Dylai’r tymheredd fod rhwng 100-125C. Ychwanegwch 1 darn o bren wedi’i drochi ar gyfer pob 2kg o gig. Mygwch am 2.5 awr ar gyfer pob 2kg.
- Os yn mygu darn mwy ar gyfer oddeutu 12 o bobl, paratowch Porchetta sy’n pwyso 5kg; defnyddiwch 4 darn o bren wedi’u trochi a’i goginio yn isel ac yn araf am 3 awr, cyn gorffen ar y barbeciw.
Dull barbeciw a mygu cyflym
Os nad oes gennych fygwr, yna bydd y dull hwn yn rhoi blas mwg hyfryd ond ysgafn. Gallwch goginio’r Porchetta yn gyfan gwbl ar y barbeciw ac ychwanegu ychydig o fwg gan ddefnyddio darnau pren afal neu geirios. Gallwch ddewis socian mewn dŵr am 24 awr, yna draenio a sychu’n dda gyda thywelion cegin. Paratowch fel yn y rysait a’i adael wedi’i orchuddio yn yr oergell am 24 awr arall. Tynnwch o’r oergell 45 munud cyn ei roi ar y barbeciw.
- Trochwch 2 lond llaw o ddarnau pren am 15 munud.
- Rhowch ar y barbeciw i’w goginio’n anuniongyrchol gydag un simne llawn o siarcol wedi’i gynnau. Os yw tymheredd y BBQ ychydig yn uchel i ddechrau, defnyddiwch y tyllau awyr yn y gwaelod a’r top i’w reoli, a’u cau am ychydig. Gallwch eu hagor yn llawn wedi i’r tymheredd ostwng.
- Wedi i’r barbeciw gyrraedd 200°C rhowch y porc yn y canol ac ychwanegu llond llaw o bren wedi’i drochi i bob basged o lo.
- Caewch y clawr a choginio am oddeutu 3 awr – gwiriwch dymheredd canol y porc, dylai fod 70-75°C.
I orffen
Rhowch y Porchetta ar farbeciw sydd wedi’i gynhesu ar wres anuniongyrchol, 200°C am 20 munud ar gyfer 2kg neu 1 awr ar gyfer 5kg. Dylai’r tymheredd terfynol mewnol fod yn 75°C. Gadewch iddo fod am 30 munud cyn cerfio.