- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C / 170°C ffan / Marc Nwy 5.
 - Rhowch y briwgig, y garlleg a’r tsili mewn powlen fawr. Cymysgwch y cyfan yn dda a’u rholio i wneud 15 o beli.
 - Cynheswch yr olew mewn sosban maint canolig. Ychwanegwch y winwnsyn a’r tsili a’u meddalu ychydig. Ychwanegwch weddill y cynhwysion (heblaw am y pasta a’r parmesan) a’u berwi.
 - Rhowch y peli ar waelod dysgl gratin maint teulu. Taenwch y pasta ar ei ben. Arllwyswch y saws drosto a rholiwch y peli yn y saws yn ofalus er mwyn eu gorchuddio.
 - Gorchuddiwch y cyfan a’i goginio am tua 40 munud, nes bydd y pasta yn feddal.
 - Gweinwch y pasta a’r cig gyda pharmesan wedi’i gratio ar ei ben.
 
Peli cig porc sbeislyd gyda saws arrabiata a phasta orzo
- Amser paratoi 15 mun
 - Amser coginio 50 mun
 - Ar gyfer 4
 
 Bydd angen
- 450g o friwgig porc heb lawer o fraster
 - 1 ewin garlleg, wedi’i falu
 - ½ tsili gwyrdd, heb hadau ac wedi’i dorri’n fân
 
Ar gyfer y saws:
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
 - ½ tsili gwyrdd, heb hadau ac wedi’i dorri’n fân
 - 1 llwy fwrdd olew olewydd
 - 400g tomatos tun wedi’u torri
 - 150ml stoc borc
 - 2 llwy de past tomatos heulsych
 - pinsiad o bowdr tsili
 - 150g pasta orzo neu siapiau pasta bach
 - Parmesan wedi’i gratio i weini