- Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6 .
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a ffriwch y porc nes ei fod yn frown braf, yna tynnwch o’r badell.
- Yn yr un badell, ychwanegwch y winwnsyn, y genhinen a’r garlleg a’u ffrio am ychydig funudau i’w lliwio. Ychwanegwch y menyn, madarch, a mwy o olew os oes angen, a ffriwch am ychydig funudau.
- Dychwelwch y porc i’r badell, ac ychwanegwch y perlysiau sych a’r blawd. Trowch am ychydig funudau ac yna ychwanegwch y stoc yn raddol a’i droi drwyddo. Ychwanegwch yr hufen a’r mwstard a dod â’r cyfan i’r berw, a’i fudferwi’n ysgafn am 20 munud.
- Arllwyswch y cymysgedd i ddysgl bastai ac yna rhowch y crwst pwff ar ei ben. Trimiwch y crwst. Curwch yr wy gydag ychydig o laeth a’i ddefnyddio i frwsio dros y toes.
- Rhowch yn y popty am tua 25 munud nes bod y toes yn euraidd.
- Gweinwch gyda thatws stwnsh a llysiau gwyrdd.
Pastai hufennog porc, cennin a madarch
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 45 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 1 llwy fwrdd olew
- 650g stêcs lwyn neu lwyn ganol porc, wedi’u torri’n giwbiau mân
- Talp bychan o fenyn
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri
- 1 genhinen, wedi’i sleisio
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- ½ llwy de saets neu deim sych
- 250g madarch (castan neu fotwm)
- 1 llwy fwrdd blawd plaen
- 200ml stoc cyw iâr
- 150ml hufen dwbl
- 1 llwy fwrdd mwstard Dijon
- Dalen o grwst pwff wedi’i rolio’n barod
- 1 wy bach, wedi’i guro
- Joch o laeth