- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 4.
- Rhowch y golwython porc, garlleg, halen a phupur, olew olewydd a saets mewn padell bobi fawr, cymysgwch y cyfan i gyfuno’r holl gynhwysion cyn eu rhoi mewn un haen ar draws y badell fel eu bod i gyd yn cael eu coginio yn gyfartal.
- Rhowch y sglodion ar hambwrdd wedi’i leinio â phapur pobi, rhowch olew drostynt a’u rhoi mewn un haen er mwyn eu coginio.
- Rhowch y sglodion mewn ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw am tua 40 munud nes bod y golwython wedi’u coginio drwodd ac yn lliw euraidd, a thynnwch y sglodion allan pan fyddant yn grensiog ac euraidd.
- Cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd ar gyfer y caws pob.
- Rhowch y cymysgedd caws ar y golwython a’u rhoi yn ôl yn y ffwrn i doddi am tua 5-10 munud.
- Gweinwch y cig gyda sglodion tenau ac asbaragws neu ffa Ffrengig ar gyfer dipio.
Golwython porc gyda chaws pob a sglodion tenau
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 40 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 golwython porc trwchus
- 1 bwlb garlleg cyfan, wedi’i haneru
- halen a phupur
- 3 llwy fwrdd olew olewydd
- 4 deilen saets ffres wedi’u torri’n fras
- 2 daten fawr, wedi’u torri’n ‘sglodion tenau’
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
Ar gyfer caws pob:
- 1 llwy fwrdd mwstard Dijon
- 100g caws Cheddar aeddfed wedi’i gratio
- 75ml cwrw
- 1 llwy de mêl