-
Amser paratoi
15 mun
-
Amser coginio
15 mun
-
Ar gyfer
4
Bydd angen
- 225g o ffiled canol lwyn Porc Cymru, wedi’i thorri’n giwbiau bach
- 1 llwy de o olew
- 2 llwy fwrdd o bast cyri Thai gwyrdd
- 400g (neu faint tebyg) o laeth cnau coco tun â llai o fraster
- 50g o ffa gwyrdd
- 2 foronen, wedi’u plicio a’u torri’n stribedi tenau
- 50g o bys snap siwgr
- 3 shibwnsyn, wedi’u sleisio
- 2 lond llaw o ysbigoglys
- 50g o bys wedi’u rhewi
- 100g o nwdls reis
- coriander ffres
- darnau o leim
- Cynheswch yr olew mewn sosban fawr anlynol, ychwanegwch y porc a’i frownio.
- Ychwanegwch y past cyri Thai gwyrdd a’r llaeth cnau coco a’u mudferwi am 8-10 munud nes bod y cig yn frau.
- Ychwanegwch y ffa a’r moron a choginiwch am funud neu ddwy.
- Ychwanegwch weddill y llysiau a’r nwdls i’w cynhesu drwyddynt. Defnyddiwch lwy ddofn i roi’r cawl mewn powlenni a’i weini. Gweinwch gyda darnau o leim a dail coriander.