- O leiaf 4 awr (12 awr yn ddelfrydol) cyn coginio: defnyddiwch sgiwer metel neu gyllell â min i wneud rhai cannoedd o dyllau bach (tua 1mm o ddyfnder) yng nghroen y porc. Cymerwch ofal i dyllu’r croen yn unig: os byddwch yn tyllu drwodd i’r cnawd bydd hyn yn achosi problemau i chi wrth wneud eich crofen. Dylai 10 munud o dyllu wneud y tro!
- Trowch y bol porc ben i waered. Rhwbiwch y cnawd gyda phowdr winwns, powdr pum sbeis Tsieineaidd, siwgr, halen bwrdd a phupur. Sychwch y croen porc gan ei daro’n ysgafn gyda phapur cegin.
- Rhowch y gwin mewn cynhwysydd llydan yng ngwaelod yr oergell (digon mawr i ffitio’r porc ynddo) yna ychwanegwch y porc (ochr y cnawd i lawr) a gadael y croen i sychu am 4-12 awr, heb ei orchuddio os yw’n bosibl.
- I wneud y byns bao, cymysgwch y gymysgedd wlyb bao a’i adael nes bod y burum yn dechrau byrlymu.
- Hidlwch gynhwysion y gymysgedd sych bao mewn i bowlen gymysgu peiriant toes, ychwanegu’r gymysgedd wlyb yn araf a’i gymysgu am 2 funud ar y gosodiad canolig (neu 4 munud os yn cymysgu â llaw). Gwiriwch y toes: dylai deimlo’n llaith a thamp ond ni ddylai lynu at eich dwylo. Ychwanegwch fymryn mwy o flawd os yw’n ludiog ac ychydig o ddŵr os yw’n sych. Yna tylinwch am 2 funud ar uchel (neu 8 munud â llaw).
- Siapiwch y toes yn belen a’i rhoi mewn powlen fawr. Brwsiwch y toes yn ysgafn gydag olew a gorchuddiwch y bowlen gyda chlwtyn ychydig yn llaith. Gadewch i brofi mewn lle cynnes braf am awr neu ddwy, nes ei fod wedi dyblu o ran maint.
- Cynheswch y ffwrn i 130ºC / 110ºC ffan / Marc Nwy 1. Cymysgwch y cêl, yr olew a’r haenau tsili ar hambwrdd a’u rhostio yn y ffwrn am 5 munud, cymysgwch, yna rhostiwch am 5 munud arall. Tynnwch y cêl unwaith y bydd yn teimlo’n grimp, ond cyn iddo droi’n frown. Unwaith y bydd y cêl yn oer, rhowch ar bapur cegin a’i ysgeintio â halen at eich dant. Trowch y ffwrn i fyny i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
- Rhowch y porc ar ddalen fawr o ffoil (plygwch y ffoil yn hanner os yw’n denau). Gwnewch hambwrdd ffoil drwy blygu ochrau’r ffoil yn agos o gwmpas y porc, ychydig yn uwch na’r porc, tua 2cm.
- Sychwch groen y porc gyda phapur cegin ac yna brwsiwch 20ml o finegr ar y croen. Gwnewch grwst halen carreg ar ben y croen drwy bwyso’r halen i lawr yn ysgafn i gyddwyso’r crwst, a fydd yn helpu i dynnu mwy o leithder allan o’r croen. Rhowch y parsel porc ar hambwrdd pobi a’i rostio am 1¼ awr ger gwaelod y ffwrn.
- Nawr gwnewch y garnais i’r bao. Yn gyntaf cymysgwch y mayonnaise, mwstard a’r siwgwr, yna rhowch o’r neilltu. Yna cymysgwch y moron, sinsir, finegr a’r halen, ac yna ei roi o’r neilltu.
- Gwnewch 8 sgwâr bach allan o bapur pobi (7cm).
- Rhowch y toes bao ar arwyneb â blawd a’i rannu’n ddarnau 50g. Rholiwch bob darn yn belen, yna rholiwch i mewn i gylch – dylai’r toes fod yn 7-8mm o drwch. Brwsiwch y top gydag olew ac yna’i blygu drosodd; dylai edrych fel gwefusau hyfryd! Rhowch bob bynsen ar ddarn o bapur pobi ac yna mewn basged stemio fetel neu bambŵ. Unwaith y bydd yr holl fyns yn y stemiwr, gorchuddiwch nhw â’r caead a’u gadael i brofi am 30 munud. (Peidiwch â throi’r stemiwr ymlaen eto!).
- Tynnwch y porc o’r ffwrn a’i dynnu allan o’r parsel ffoil. Taflwch y crwst a brwsiwch yr holl halen a allwch chi i ffwrdd o ochrau a thop y cig.
- Trowch y ffwrn i fyny i osodiad gril canolig uchel (neu os nad oes gennych gril, gallwch droi’r ffwrn yn uchel iawn i 240ºC / 220ºC ffan / Marc Nwy 9).
- Dychwelwch y porc i’r ffwrn ar y silff waelod (tua 25cm i ffwrdd o’r gril os yn bosibl) am 30-40 munud neu nes ei fod wedi’i goginio ac yn euraid. AWGRYM: mae’n bwysig cael y grofen yn gytbwys i sicrhau coginio cyfartal, felly defnyddiwch lwy neu ddwy o dan y cig i’w gynnal os oes angen.
- Berwch y tegell, rhowch y dŵr mewn sosban, rhowch eich stemiwr ar ei ben a stemiwch eich byns ar ferw canolig. Waeth faint yw’r demtasiwn, peidiwch â chodi caead y stemiwr am tua 15 munud! Gall gostwng tymheredd yn sydyn ddifetha eich toes. Ar ôl y 15 munud, gadewch eich byns yn y stemiwr ar wres isel nes bod eu hangen arnoch chi.
- Tynnwch y porc allan o’r ffwrn a’i sleisio’n sleisys 1cm o drwch. Os na allwch dorri drwy’r grofen, ceisiwch droi’r cig wyneb i waered am ychydig a sleisio’r ffordd honno, ond peidiwch â gadael y cig wyneb i waered am gyfnod hir gan y bydd y lleithder a’r sudd yn meddalu’r grofen.
- I weini, llenwch y byns bao gyda’r porc, y garnais sinsir a moron a chymaint o gêl ag y gallwch ffitio i mewn! Ychwanegwch y mayonnaise mwstard ac ysgeintiwch bupur du ffres drostyn nhw.