- Cynheswch y popty i 140ᵒC / 120ᵒC ffan / Marc Nwy 1.
- Cymerwch ochr gwastad y bol, sychwch y grofen a chrafwch y braster gyda chyllell miniog.
- Leiniwch hambwrdd rhostio bâs gyda ffoil. Ychwanegwch y winwnsyn, yr afalau a’r moron i weithredu fel trybedd, a rhowch sesnin arno.
- Gorffwyswch y porc gydag ochr y croen i fyny dros y cynhwysion. Arllwyswch y seidr, y dŵr a’r cola i mewn i’r hambwrdd rhostio.
- Gorchuddiwch y porc gyda phapur pobi, ac yna ffoil, gan ei blygu o gwmpas ochrau’r tun i’w selio. Gosodwch yn y popty a choginiwch am 6 awr.
- Tynnwch y porc o’r popty a thynwch y papur pobi a’r ffoil i ffwrdd yn ofalus.
- Trowch dymheredd y popty i fyny i 200ᵒC / 180ᵒC ffan / Farc Nwy 6. Taflwch y cynhwysion o gwmpas y bol porc yn y sudd a’r braster. Rhowch yn ôl yn y popty am awr arall i grimpo’r croen.
- Tynnwch o’r popty a’i adael i orffwys.
- Gweinwch gyda thatws stwnsh a saws afal Bramley trwchus.
Bol porc wedi’i rostio’n araf gyda chrofen grimp
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 7 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- ochr o borc bol
- 1 winwnsyn mawr, yn ei hanner
- 4 moronen fawr, wedi’u sleisio
- 4 afal goginio, wedi’i chwarteri
- 2 litr o seidr Cymreig
- 300ml o ddŵr
- 300ml o cola
- sesnin