facebookPixel

Wythnos Porc o Gymru 2022

Ionawr 21, 2022

Mae Wythnos Porc o Gymru (24 – 30 Ionawr) yn ddathliad blynyddol o gynhyrchwyr a manwerthwyr crefftus sy’n arbenigo mewn bridio a chyflenwi porc a chynhyrchion porc o ansawdd da, o selsig Cymreig traddodiadol i charcuterie mewn arddull Eidalaidd.

Gyda’r thema ‘Pa mor bell yw eich fforc o’n porc’ eleni, bydd ffigurau blaenllaw o fyd bwyd Cymru fel y darlledwyr Samantha Evans a Shauna Guinn o’r enwog Hang Fire Southern Kitchen, a llu o flogwyr bwyd o Gymru, yn arddangos y porc gorau o ffynonellau lleol ac o ble y gall defnyddwyr ei brynu.

Arbenigwyr yn eu maes

Mae Cymru yn gartref i gynhyrchwyr porc crefftus ar raddfa fach sy’n arbenigo mewn creu cynnyrch unigryw, wedi’i fagu â llaw; canlyniad hyn yw ei fod yn aml ar gael i’w brynu’n uniongyrchol gan y cynhyrchydd neu siopau annibynnol lleol, fel siopau cigydd.

Mae sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i effaith ar yr amgylchedd wedi dod yn fwyfwy pwysig i ddefnyddwyr yn y blynyddoedd diwethaf. Ers cenedlaethau, mae ffermwyr Cymru wedi chwarae rhan ganolog wrth greu a chynnal y tirweddau gwledig rydym ni’n eu hadnabod a’u caru, yn gorfforol ac yn ddiwylliannol.

Amlygir pwysigrwydd y diwydiant ffermio ac amaethyddol i les economaidd cymunedau ledled Cymru gan ymchwil sy’n dangos, am bob punt sy’n cael ei gwario’n lleol gyda BBaCh, fod hyd at 70 ceiniog yn cylchredeg yn ôl i’r economi leol.

Mae’r diwydiant ar gynnydd yng Nghymru ar hyn o bryd gyda nifer cynyddol o gynhyrchwyr yn dechrau busnes newydd ac mae ymchwil wedi dangos bod gwerthiant cynnyrch porc ledled y DU yn 2021 (ffres ac wedi’i rewi, darnau a chig wedi’i brosesu) 15% yn uwch nag yn 2019.

Dywedodd Pippa a Dafydd Knight o Cig Dulas Meats yn Aberhosan, ger Machynlleth:

“Rydym yn cadw amrywiaeth o foch yn Cig Dulas Meat. Mae gennym fridiau masnachol, brodorol prin a rhai mewn perygl, ac rydym yn teimlo ein bod yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu’r bridiau hynny.

“Rydym hefyd yn ffermio cig eidion a defaid ar ein fferm ucheldir, ac mae’r anifeiliaid yn cael eu bwydo ar laswellt, felly roeddem eisoes yn gwybod bod y bwyd y maent yn ei fwyta, sydd mor naturiol ag y gall fod, yn gwneud gwahaniaeth i’r cig, felly defnyddiom yr un syniad ar gyfer ein porc. Rydym yn gweithio tuag at fod mor gynaliadwy â phosibl drwy ddod o hyd i borthiant yn y DU sy’n ddi-soia ac wedi’i ategu â phori.

“Mae’n wych gwybod bod ein cymuned leol, a’r economi leol, yn elwa o’n porc. Mae gan ein cwsmeriaid fynediad at gynnyrch ffres o ansawdd uchel ar garreg eu drws. Rydym hefyd yn cyflenwi ein canolfan arddio leol, siop fferm a chaffi felly rydym yn cyfyngu’r milltiroedd bwyd yn fawr, gan ei wneud yn fenter ecogyfeillgar.”

Hang Fire a Scott Quinnell

I ddathlu Wythnos Porc o Gymru, bydd Sam a Shauna yn dangos i’r arwr rygbi Scott Quinnell sut i goginio ‘tomahawks’ porc gyda salsa verde o India’r Gorllewin, stêcs tatws melys a bonbons porc ‘jerk’.

Dywedodd Sam Evans o ddeuawd Hang Fire:

“Rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Porc o Gymru eleni. Mae coginio cynhwysion ffres, lleol, o safon, gyda rhinweddau cynaliadwyedd rhagorol yn bwysig iawn i ni, felly mewn gwirionedd, mae porc yn ticio ein bocsys i gyd!

“Rydym ni wedi creu pryd anhygoel o tomahawks porc gyda salsa verde o India’r Gorllewin ac mae Scott Quinnell yn mynd i’n helpu i wneud y pryd mewn dosbarth meistr unigryw. Byddwn yn dangos i chi (a Scott!) pa mor hawdd yw paratoi a choginio porc a’ch cyflwyno i flasau cyffrous.

“Yr hyn sy’n gwneud porc mor arbennig yw ei fod mor hawdd coginio ag ef. Rydym ni wrth ein bodd yn coginio porc ar y barbeciw, ond rydym ni’n edrych ymlaen i ddangos i chi (a Scott) sut mae cael y gorau o’r cynnyrch gwych hwn yn eich cegin eich hun. Gallwch gael canlyniadau campus gyda porc, ac ni ddylai pobl ofni arbrofi gyda blasau. Ac nid dim ond selsig ar farbeciw yw porc; mae’n wych i’w rostio, ffrio, tro-ffrio a choginio’n araf. Felly, beth am alw draw i’ch siop gigydd leol neu’ch cynhyrchydd porc lleol a gofyn i’ch cigydd am borc blasus. Chewch chi mo’ch siomi!”

Safbwynt arbenigwyr y farchnad

Ychwanegodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad Hybu Cig Cymru:

“Mae rhoi hwb mawr ei angen i’n heconomi leol wedi bod yn hollbwysig yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae ein ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau manwerthu yng Nghymru wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad diwyro i gadw ein diwydiant porc i ffynnu, ac yn wir, i’w weld yn mynd o nerth i nerth.

“Mae Wythnos Porc o Gymru yn ddathliad gwych o gynnyrch eithriadol, ond heb holl ymdrech y rhai sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, ni fyddai mor arbennig. Rwy’n credu bod persbectif newydd ar siopa wedi gwawrio, gyda defnyddwyr naill ai’n archebu eu porc yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd neu’n ymweld â’u siop gigydd leol.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ffordd haws, ecogyfeillgar hon o siopa sy’n fuddiol yn economaidd yn aros gyda ni am flynyddoedd i ddod. Ond mater i’r defnyddiwr yw dewis hyn yn ymwybodol fel y ‘norm’ ac nid yn unig ei ystyried yn duedd neu allan o reidrwydd, oherwydd y newidiadau yn ein bywydau bob dydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.”

Hefyd yn cefnogi Wythnos Porc o Gymru, mae Menter Moch Cymru yn helpu i ddatblygu’r diwydiant moch yng Nghymru, gan ddarparu cymorth, hyfforddiant a chyngor i gynhyrchwyr a busnesau eraill yn y sector.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch:

“Mae’n galonogol gweld y fath gyffro ynghylch y diwydiant moch yng Nghymru ac mae Wythnos Porc o Gymru yn ffordd wych o arddangos ein diwydiant cyffrous. Mae gan bob cynhyrchydd porc ei stori unigryw ei hun i’w hadrodd ac mae’n wych gweld defnyddwyr yn gwerthfawrogi’r holl waith caled, sgil ac ymrwymiad sy’n gysylltiedig â chreu cynnyrch mor eithriadol.

“Mae gennym ni gynnyrch unigryw, yma yng Nghymru, sy’n llawn blas ac yn hynod hyblyg. Dyna pam y byddwch chi’n gweld ein cynhyrchwyr porc yn arbrofi ac yn creu cynhyrchion arloesol, gan ddyrchafu porc i’r lefel nesaf. A’r hyn sy’n ei wneud hyd yn oed yn well yw’r ffaith bod y cynnyrch anhygoel hwn ar garreg ein drws!”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This