facebookPixel

Ffermwr o Gymru yn torri Teitl Record Byd Guinness

Rhagfyr 20, 2019

Torrodd Graeme Carter, o Fferm Cwm Coch yn Sir Gaerfyrddin, deitl RECORD BYD GUINNESS am greu’r nifer mwyaf o selsig soch mewn sach mewn munud ar stondin Hybu Cig Cymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

Gan guro record André Ortolf, a greodd 17 mewn munud yn 2016, creodd Graeme 18, heb eiliad i’w sbario; sy’n golygu bod pob un wedi’i chreu mewn llai na thair eiliad a hanner!Er iddo rolio cyfanswm o 20, gall RECORD BYD GUINNESS gadarnhau – er mawr siom i Graeme – mai dim ond 18 sydd o “safon dderbyniol”, ac y gellir eu cyfrif tuag at y cyfanswm terfynol …

Er gwaethaf hyn, mae Graeme ar ben ei ddigon gyda’i gyflawniad:

“Roedd ceisio ennill record byd yn rhywbeth newydd i mi, ond fe wnes i fy ngorau glas ac rydw i wrth fy modd i allu dweud bod gen i Record Byd. Rydw i’n gefnogol iawn o unrhyw beth sy’n helpu i roi cynhyrchwyr bach Cymru ar y map; mae wedi bod yn gymaint o sbri ac yn ffordd wych o ddechrau tymor y Nadolig 2019.

“Roedd fy sgiliau yn bendant ar brawf, ond gobeithio fy mod wedi profi i’r rheiny a fydd yn blasu’r bwyd bod porc a fegir yn araf yn yr awyr agored yng Nghymru, heb ei ail”.

Daeth selsig soch mewn sach i’r brig mewn arolwg yn 2017 i ddod o hyd i’r ‘Rhan Orau o Ginio Nadolig’, felly nid yw’n syndod eu bod wedi dod yn un o brif fwydydd traddodiadol pobl Prydain. Ond, yn sgil pryderon diweddar y gallai fod yna brinder dros gyfnod yr ŵyl eleni, mae Porc.Wales yn datgan y gall pobl Cymru sicrhau cyflenwad digonol yn hawdd trwy siopa’n lleol.

Fel yr eglura Kirstie Jones, Swyddog Datblygu’r Farchnad yn HCC:

“Rydym am sicrhau nad oes neb yn canslo’r Nadolig, felly mae ein cynhyrchwyr porc yng Nghymru wrth law i sicrhau cyflenwad digonol. Nid oes angen tynnu selsig soch mewn sach oddi ar y fwydlen!

“Mae gan ein ffermwyr traddodiadol gadwyni cyflenwi llai, sy’n golygu nad ydych yn cefnogi busnesau lleol yn unig, ond hefyd yn cyfrannu at amgylchedd ffermio mwy cynaliadwy.

“Gan fod y Nadolig ar y gorwel, dyma’r amser perffaith i hybu cymunedau lleol. Rydym am annog pawb yng Nghymru i ymweld â ffermydd a chigyddion lleol i gael gafael ar gynnyrch lleol blasus.”

Da iawn Graeme!

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This