facebookPixel

Ennillwch dosbarth meistr coginio gyda Angela Gray

Hydref 25, 2017

Er mwyn dathlu cynnyrch lleol arbennig, mae Porc Blasus yn rhoi’r cyfle i chi ennill dosbarth meistr porc gyda’r ysgrifennydd bwyd a’r cogydd enwog, Angela Gray.

Bydd yr enillydd lwcus a saith gwestai yn cael profiad coginio ymarferol gydag Angela yn ei Hysgol Goginio yng Ngwinllan Llanerch.

Bydd y diwrnod yn cynnwys paratoi a choginio amrywiaeth o brydau er mwyn dangos yr holl ffyrdd gwahanol y gallwch goginio porc, o goginio’n araf, mygu’n boeth a barbeciwio i wneud selsig, ei stwffio a’i rwymo a chreu’r borc-pei berffaith. Bydd enillydd y gystadleuaeth a’i westeion hefyd yn derbyn copi wedi’i lofnodi o lyfr diweddaraf Angela.

Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn basged yn llawn nwyddau porc gan ei gyflenwr lleol er mwyn iddo ymarfer ei sgiliau newydd.

Er mwyn cael y cyfle i ennill y wobr wych hon, y cyfan y mae’n rhaid i ymgeiswyr ei wneud yw dod o hyd i’w cyflenwr porc agosaf gan ddefnyddio’r map Canfod Porc Lleolar-lein, a rhoi gwybod i Porc Blasus drwy ei ffrydiau cymdeithasol.

Meddai Angela Gray:

“Dwi’n mwynhau coginio gyda phorc ac mi fyddwn ni’n rhoi cynnig ar ryseitiau syml, ond blasus dros ben. Dwi bob amser yn ymdrechu i ddefnyddio cynnyrch lleol a dwi’n hoffi cefnogi ffermwyr a chigyddion lleol. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddangos pa mor hyblyg y mae porc yn gallu bod a chael pobl yn gyffrous am goginio gydag ef.

“Mae llawer o resymau dros brynu cynhwysion lleol, a’r cyntaf yw bod ffermwyr yn cynaeafu cnydau pan fyddant ar eu gorau gan sicrhau ein bod yn cael y bwydydd mwyaf aeddfed o’r ansawdd gorau. O ganlyniad, mae’n debygol y bydd yn llawer mwy ffres ac felly’n fwy maethlon ac, wrth gwrs, bydd yn blasu’n well.”

Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Mae ffermydd porc yn rhai bach ac arbenigol. Maent yn llawn traddodiad sy’n dyddio’n ôl gannoedd o flynyddoedd; wedi’i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth o ffermwyr. Mae’r dirwedd yn gyfoethog ac mae ei hunaniaeth yn gref. Caiff moch eu magu mewn cenfeiniau bach ac mae gan ffermwyr porc yng Nghymru werthoedd gweledigaethol ond traddodiadol ar yr un pryd.

Mae ffermwyr o Gymru’n aml yn addasu eu dulliau ffermio yn unol â’r adeg o’r flwyddyn, gan roi’r union ofal i’w moch y mae ei angen arnynt ym mhob tymor. Yn aml mae gan ein ffermwyr Cymreig mwy traddodiadol gadwyni cyflenwi byrrach. Mae hyn yn helpu i gefnogi busnesau lleol ac mae’n well i’r amgylchedd.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This