facebookPixel

Ennill taleb £100 i’w wario gyda chynhyrchydd porc o’ch dewis

Mawrth 16, 2023

Mae ein cynhyrchwyr a’n manwerthwyr crefftus yn arbenigo mewn bridio a chyflenwi porc o ansawdd uchel a fagwyd â llaw, yn ogystal â chynnyrch porc unigryw, o selsig Cymreig traddodiadol i charcuterie arddull Eidalaidd.

Mae Cymru’n gartref i nifer o’r cynhyrchwyr porc bychain ac artisan hyn; un o ganlyniadau hyn yw ei fod yn aml ond ar gael i’w brynu’n uniongyrchol gan y cynhyrchydd neu siopau annibynnol lleol, fel cigyddion.

Felly, roedden ni’n meddwl y bydden ni’n gwneud pethau ychydig yn haws i chi drwy ddarparu taleb gwerth £100 i dri unigolyn lwcus i’w wario gyda chynhyrchydd porc o’u dewis.

Mae gennym ddigonedd o gynhyrchwyr porc artisan yng Nghymru, gallwch ddod o hyd i’ch cynhyrchydd neu fanwerthwr porc agosaf trwy ddefnyddio’r nodwedd chwilio ar y map hwn ar ein gwefan.

Sut i gystadlu

Mae cystadlu’n hawdd, oll sydd rhaid gwneud yw mynd draw i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i hoffi post y gystadleuaeth a dilyn ein tudalen.

Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, Instagram a Twitter.

Gallwch hefyd gystadlu trwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr misol.

Cliciwch yma i ddod o hyd i Delerau ac Amodau‘r gystadleuaeth.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This