facebookPixel

Cystadleuaeth Cyflwynwch eich Selsig Gorau 2022

Mai 30, 2022

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, bydd cystadleuaeth Cyflwynwch eich Selsig Gorau eleni yn dychwelyd i’w fformat gwreiddiol, gyda’r tri sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu beirniadu mewn digwyddiad arbennig ar ddydd Iau’r Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r rownd derfynol yn cynnwys beirniaid enwog, ac mae’n un o uchafbwyntiau’r wythnos ar stondin HCC, ac eleni gellir cyflwyno’r teitl mawreddog i’r pencampwr yn bersonol, yn hytrach nag yn rhithiol. Bydd yr enillydd lwcus hefyd yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer cystadleuaeth Pencampwr Pencampwyr y Selsig ledled y DU, a gynhelir yng Ngwobrau Siop Gigydd y Flwyddyn ym mis Chwefror 2023.

I gystadlu, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi’ch manylion trwy ddilyn y ddolen isod. Bydd y ffurflen yn gofyn ichi restru cynhwysion eich selsigen ac amlinellu’n gryno iawn pam rydych chi’n credu y dylai ennill. Bydd angen i chi hefyd anfon sampl o’ch selsig atom (dim mwy na 4).

Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion ysgrifenedig (ni ddylai’r ffurflen gymryd mwy na 5 munud i’w llenwi) yw dydd Gwener 24 Mehefin. Mae dolen i’r ffurflen i’w gweld yma

Telerau ac amodau

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This