facebookPixel

Cyflwynwch Eich Selsig Gorau 2021 – cyhoeddi’r rhestr fer

Mehefin 30, 2021

Mae ein trydedd gystadleuaeth flynyddol i ddod o hyd i selsig gorau Cymru bellach wedi cau, ac rydym yn falch iawn i allu cyhoeddi’r rhestr fer:

Cwm Farm Charcuterie, Abertawe, gyda’u selsig Caws a Tsili Goleuadau Traffig

Daniel Morris Butchers, Dinbych, gyda’u Selsig Siytni Eirin Dinbych a Chwrw Sinsir

Red Valley Farm, Caerfyrddin, gyda’u Selsig Baedd Gwyllt ac Afal

Mae dewis rhestr fer o dair selsigen yn unig bob tro’n dasg anodd ond pleserus iawn, a doedd y flwyddyn yma ddim gwahanol, diolch i’n teulu Porc Blasus gwych. Roedd gennym nifer o gynigion i’w dewis ohonynt, gan gynhyrchwyr dros Gymru gyfan – a diolch yn fawr i bawb gymerodd ran.

Byddwn yn proffilio’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn rhaglen ddigidol, ac yn cyhoeddi’r enillydd ar sianeli cymdeithasol Porc Blasus yn hwyrach yn y flwyddyn.

Bydd yr enillydd lwcus yn cymhwyso’n awtomatig i gystadleuaeth Pencampwr y Pencampwyr Selsig y DU ac Iwerddon, a fydd yn cael ei chynnal yng Ngwobrau rhithwir Siop Cigydd y Flwyddyn 2021 ym mis Chwefror 2022.

Cofiwchgadw golwg ar ein sianeli – gan gynnwys gwefan newydd sydd ar y ffordd yn fuan – am y newyddion diweddaraf!

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This