facebookPixel

Cyflwynwch Eich Selsig Gorau 2018

Gorffennaf 4, 2018

Yn ddiweddarach yr haf hwn rydyn ni’n cynnal ein Bwyty Selsig Crand Unnos (‘Posh Sausage Pop-Up’) cyntaf erioed a hoffem gynnig cyfle i chi fod ein cyflenwr.

Ynghyd â byrddau bwyta a staff gweini, mewn lleoliad prysur yng Nghaerdydd i’w gadarnhau cyn hir, mae’r Bwyty Selsig Crand Unnos (‘Posh Sausage Pop-Up’) yn barod i gynnig profiad bwyta unigryw i loddestwyr lwcus.

Bydd rhestr fer o aelodau yn cael eu gwahodd i gyflwyno’u selsig gorau yn ein stondin ar ddydd Llun 23 Gorffennaf, yn y Sioe Frenhinol. Yn beirniadu’r selsig buddugol fydd neb llai na dyfarnwr Undeb Rygbi Cymru, Nigel Owens.

Bydd yr enillydd lwcus nid yn unig yn cael cyfle i gyflenwi selsig i’r bwyty unnos, ond hefyd yn ennill 2 docyn i ddigwyddiad Gwobrwyo Cigydd y Flwyddyn.

I enwebu eich hun am gyfle i ennill, cliciwch ar Ymgeisio Nawr.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This