facebookPixel

Beth sy’n gwneud selsigen wych?

Medi 30, 2020

Os ydych chi fel ni yn Porc Blasus wrth eich bodd yn bwyta selsig, mae’n siŵr eich bod chi’n adnabod eich hoff gynhyrchwyr a brandiau yn barod – ond a ydych chi’n gwybod beth sy’n cyfrif fel selsig o’r ansawdd gorau yn dechnegol?

Mae cynhyrchwyr balch ledled Cymru yn aml yn cyflwyno eu selsig i gael eu beirniadu er mwyn ennill llu o wobrau, fel arfer mewn sioeau fel y Sioe Frenhinol ac am wobrau rhyngwladol fel Great Taste. Rhaid i gynhyrchwyr gyflwyno selsig amrwd a selsig wedi eu coginio, ac mae’r beirniadu yn broses tri cham sy’n ystyried amrywiaeth o ffactorau.

Felly, i unrhyw gynhyrchwyr sy’n darllen hwn, neu i gwsmeriaid rheolaidd sy’n mwynhau selsig da, rydyn ni wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn ynglŷn â sut mae’r selsig hynny’n cael eu beirniadu’n swyddogol gan yr arbenigwyr.

 

 

Cam un: selsig amrwd

  1. Golwg: pa mor ddeniadol mae’n edrych, a’i bod wedi ei gorffen gyda phen tynn da
  2. Maint: mae beirniaid yn sicrhau eu bod yn gwirio bod y selsigen yr un lled drwyddi draw
  3. Llenwad: a yw’r selsig wedi eu llenwi’n dda â chig o ansawdd da a chynhwysion eraill, wedi eu pecynnu’n gyson, ac nad oes unrhyw fylchau yn y llenwad a allai achosi i’r selsig dorri wrth goginio

Cam dau: selsig wedi eu coginio

  1. Golwg: A yw’r selsigen wedi ei choginio’n dda, a yw’n edrych yn ddeniadol ac yn flasus?
  2. Crebachu: os yw’r selsigen wedi crebachu gormod o’i maint gwreiddiol wrth goginio, caiff pwyntiau eu tynnu oherwydd mae hyn fel arfer yn golygu bod ychydig gormod o fraster yn y selsigen yn y lle cyntaf
  3. Hollti: os yw’r croen wedi hollti wrth goginio, gellir colli pwyntiau

Cam tri: blasu’r selsig

  1. Ansawdd: mae beirniaid yn ystyried sut mae’r selsigen yn teimlo yn y geg – a yw’n rhy arw, neu’n gadael ôl-flas seimllyd
  2. Arogl: a yw’r selsig yn arogli’n ddeniadol, ac os yw’n selsig â blas, a yw’r cynhwysion allweddol yn amlwg yn yr arogl?
  3. Blas: yn bwysicaf oll – a yw’n dda ac yn flasus, ac os yw’n selsig â blas, a yw’r blasau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd?

 

Os hoffech chi flasu selsig gwych, o ansawdd da ar ôl darllen hwn, ewch draw i’n tudalen ryseitiau am ysbrydoliaeth a’n cyfeiriadur ar-lein o gynhyrchwyr i gael gafael ar rai o’r selsig gorau sy’n eich ardal chi.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This