facebookPixel

Anrhydeddu gwneuthurwyr selsig o Gymru

Gorffennaf 22, 2021

Cafodd dau gystadleuydd o Gymru eu dewis yn ail orau mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i’r selsig gorau y gall arian eu prynu ym Mhrydain ac Iwerddon.

Bu’r beirniaid wrth eu gwaith ym mis Gorffennaf yng nghystadleuaeth Pencampwr y Pencampwyr, a gafodd ei drefnu gan y Meat Trades Journal, a phenderfynwyd cyflwyno’r brif wobr i gigyddion Buttling o Dorset am selsig porc a saets traddodiadol.

Ymhlith y cigyddion a ddaeth yn agos at y brig, roedd Ela a Huw Roberts (Porc Oinc Oink) o Llithfaen ger Pwllheli, a’r teulu Hayward (Puff Pigs) o Aberpennar, Cwm Cynon.

Roedd y panel annibynnol o feirniaid yn chwilio am y selsig gorau o ran eu blas, gwead, llenwad a golwg, ac roedden nhw’n llawn canmoliaeth o selsig sbeislyd chilli a garlleg  Puff Pigs, a selsig porc a chaws Cheddar aeddfed Oinc Oink.

Mae’r naill gwmni a’r llall yn hen gyfarwydd â gwneud yn dda mewn cystadlaethau. Mae Oinc Oink yn gyn-enillydd y gystadleuaeth  ‘Pencampwr y Pencampwyr’, a chafodd Puff Pigs wobr yng nghystadleuaeth  ‘Cyflwynwch eich Selsig Gorau’ a drefnwyd yn Sioe Frenhinol Cymru 2019 gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Dywedodd Swyddog Gweithredol Marchnata Brand HCC, Philippa Gill:

“Rydym wastad wrth ein bodd pan fo cynhyrchwyr Porc Blasus yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n eu haeddu. Fel arfer bydd moch yng Nghymru yn cael eu magu i safonau uchel iawn mewn cenfeiniau bach. Yn aml, bydd y cynhyrchwyr yn arbenigo mewn bridiau prin, ac mae eu cig yn flasus dros ben!”

Dywedodd Ela Roberts o Oinc Oink:

“Roedden ni wrth ein bodd pan glywson ni ein bod wedi wedi dod mor agos at y brig yn y gystadleuaeth hon. Mae ansawdd ein selsig yn adlewyrchu safon ein moch Cymreig pur.”

Dywedodd Wayne Hayward o Puff Pigs:

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein llwyddiant yn tynnu sylw at fuddion y bridiau moch traddodiadol ac yn benodol, yn ein hachos ni, y Saddleback Prydeinig. Rydyn ni’n teimlo’n angerddol ynghylch goroesiad y bridiau prin ac olrheinedd ein cynnyrch o ganlyniad i ddefnyddio anifeiliaid pedigri pur. Mae blas a gwead porc sy’n dod o foch a gafodd eu magu yn yr awyr agored ac sydd wedi tyfu’n araf, heb ei ail yn ein barn ni, a chredwn ei fod yn rhoi mantais enfawr inni wrth gynhyrchu selsig. Fel cynhyrchwyr ar raddfa fach, rydyn ni’n gwybod na fyddwn ni byth yn gallu cystadlu ar sail cost yn unig, ac felly roedden ni’n teimlo bod yn rhaid i ni gynhyrchu selsig o’r ansawdd uchaf ac anelu at y farchnad bremiwm.”

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This