- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4-5.
- Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a browniwch y briwgig a’r winwnsyn am tua 3-4 munud.
- Ychwanegwch yr afal, y halen a phupur, y saets a’r seidr a’u berwi. Ychwanegwch y gronynnau grefi er mwyn tewychu’r saws. Coginiwch am tua 8-10 munud.
- Torrwch y crwst yn 6-8 darn a’u rholio’n gylchoedd bras. Rhowch y darnau crwst ar ddarnau bach o bapur pobi anlynol. Cymerwch ddysgl ramecin/dysgl bastai/tun myffin dwfn a chodwch y crwst ar y papur a leiniwch y ddysgl/tun (papur i’r ddysgl) − gwthiwch y crwst i mewn i’r ymylon a’r ‘corneli’ er mwynleinio’r ddysgl/tun yn fras.
- Cymerwch lwyaid fawr o gymysgedd y briwgig gan lenwi pob dysgl/tun bron i’r ymyl.
- Plygwch y crwst drosodd i greu caead a phinsiwch yr ymylon i’w selio.
- Rhowch y pasteiod ar hambwrdd pobi. Coginiwch mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw am tua 25-30 munud nes y byddant yn frown euraidd. Gadewch iddynt oeri ychydig ac yna tynnwch y pasteiod allan o’r dysglau gan ddefnyddio ymylon y papur leinio − hawdd!
- Gweinwch yn gynnes neu’n oer fel byrbryd neu brif bryd.
Pasteiod porc bach gyda saets, afalau a seidr
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 50 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 450g o friwgig porc heb lawer o fraster
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
- 1 afal bwyta, wedi’i greiddio a’i sleisio
- halen a phupur
- 2 lwy fwrdd o saets ffres, wedi’i dorri
- 300ml o seidr neu sudd afal
- 1-2 lwy fwrdd o ronnynnau grefi
- 500g pecyn parod o grwst brau
- blawd plaen ar gyfer rholio
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud tua 6-8 pasteiod.