-
Amser paratoi
15 mun
-
Amser coginio
20 mun
-
Ar gyfer
2
Bydd angen
- 225g o ffiled canol lwyn porc, wedi’i thorri’n sleisys tenau
- 1 llwy de olew
- 2 lwy fwrdd past cyri Thai coch
- 200ml can o laeth cnau coco
- 2 llwy de saws soi
- 50g brocoli coesau meddal
- 2 bylb pak choi wedi’u sleisio
- 4 shibwnsyn, wedi’u sleisio
- 50g pysgnau hallt
- 1 sudd a chroen un leim
- dail coriander ffres i weini
- Cynheswch yr olew mewn sosban fawr anlynol/wok, ychwanegwch y porc a’i frownio.
- Ychwanegwch y past cyri Thai coch a’i gymysgu’n dda i orchuddio’r cig.
- Ychwanegwch y llaeth cnau coco a’r soi a mudferwch y cyfan am 5-6 munud nes bod y cig yn frau.
- Ychwanegwch y brocoli a’r pak choi a choginiwch am funud neu ddwy.
- Ychwanegwch weddill y cynhwysion a’u gweini gyda nwdls reis sydd wedi’u cymysgu â tsilis sydd wedi’u torri’n fân, shibwns a chroen leim.