- Mewn sosban fawr, cynheswch yr olew a choginiwch y stribedi porc am 3-4 munud nes eu bod wedi brownio.
- Ychwanegwch y garlleg, sinsir, sibols, india corn, ffa Ffrengig, a phinafal. Coginiwch am 1-2 munud.
- Ychwanegwch y saws wystrys a choginiwch am funud i’w gynhesu drwyddo.
- Gweiniwch gyda nwdls neu reis, mwy o lysiau wedi’u tro-ffrio os dymunwch a chraceri corgimychiaid.
Porc, sinsir a sibols wedi’u tro-ffrio
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 225g lwyn porc heb lawer o fraster, wedi’i dorri i stribedi tenau (gallwch hefyd ddefnyddio golwyth o’r goes neu ffiled)
- 1 llwy fwrdd olew
- 2cm sinsir, wedi’i blicio a’i sleisio’n fân
- 1 clôf garlleg, wedi’i falu
- 6 sibolsyn, wedi’u trimio a’u sleisio
- 50g india corn
- 50g ffa Ffrengig, wedi’u trimio a’u sleisio
- 227g tun o ddarnau pinafal, wedi’u draenio
- 4 llwy fwrdd saws wystrys