facebookPixel

Golwython porc swmpus gyda saets, garlleg a lemwn

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 golwyth porc coch trwchus
  • 3 clof o garlleg
  • pupur du
  • 11 deilen o saets ffres, wedi’u torri’n fân
  • 1½ lemwn, sudd a chroen
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 50g o fenyn
  • 2 lwy fwrdd caws Parmesan wedi ei gratio
  • llysiau bach i’w dipio

Dull



  1. Defnyddiwch bestl a mortar neu ddysgl a llwy bren i falu gyda’i gilydd y garlleg, pupur du a 6 deilen saets.
  2. Ychwanegwch at hyn y sudd a’r croen o un lemwn a’r olew olewydd.
  3. Rhowch y golwython porc mewn powlen fawr ac ychwanegwch gymysgedd y marinad, a’i daenu dros y golwython i gyd. Gorchuddiwch y bowlen a’i rhoi yn yr oergell am oddeutu 2 awr.
  4. Dip Menyn: mewn powlen fach, rhowch y menyn, sudd a chroen ½ lemwn, y caws Parmesan a 5 deilen saets.
  5. Rhowch y gymysgedd yn y popty meicrodon am funud neu nes iddi doddi. Trowch y gymysgedd.
  6. Coginiwch y golwython ar ridyll, gradell neu farbeciw sydd wedi’i gynhesu’n barod am 6-8 munud bob ochr.
  7. Detholiad o lysiau bach y tymor e.e. pys yn eu codau, asbaragws, india corn bach, ffenigl bach i’w dipio – naill ai’n amrwd neu wedi’u plymio i ddŵr berw – a chwlffyn o fara crystiog.
Share This