- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180˚C / 160˚C ffan / Marc Nwy 4.
- Leiniwch dun rhostio gyda haen ddwbl o ffoil a rhoi’r asennau ynddo.
- Yna, cymysgwch y siytni mango, y sbeisys, y sudd mango ac oren a’i dywallt dros yr asennau.
- Yna, rhowch ffoil yn llac o amgylch yr asennau, gorchuddiwch gydag ail ddarn o ffoil a choginio am tua 1½ awr, neu nes bod y cig yn dyner a meddal. Pan fydd y cig yn dyner a meddal tynnwch y ffoil a choginio am 30 munud arall.
- Tra bydd yr asennau’n coginio rhowch yr holl lysiau mewn tun rhostio ar wahân, mewn un haen, ac ysgeintio olew olewydd drostynt. Coginiwch nhw yn y popty am tua 45-60 munud neu nes byddant yn feddal ac euraidd.
- Pan fydd yr asennau’n barod tynnwch nhw o’r popty, a thywallt y sudd i sosban fechan a’i ferwi am 10 munud neu nes bydd wedi lleihau ychydig.
- Pentyrrwch yr asennau ar blât mawr i’w rannu gan rhoi’r saws ar eu pennau a’u gweini gyda’r talpiau llysiau.
Asennau breision mango ac oren gyda thalpiau llysiau
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1.8kg o asennau breision porc
- 2 lwy fwrdd o siytni mango
- 1 llwy de 5 sbeis Tsieineaidd
- 450ml sudd mango ac oren
- 1 mango ffres, wedi’i dorri’n dalpiau o gwmpas y garreg
Ar gyfer y talpiau llysiau:
- 1 celeriac, wedi’i blicio a’i dorri’n sglodion mawr
- 3 tysen felys, wedi’u plicio a’u torri’n sglodion mawr
- 3 moronen, wedi’u plicio a’u torri yn sglodion mawr
- 2 lwy fwrdd o olew llysiau