- Cynheswch yr olewau mewn padell ffrio anlynol fawr neu wok. Ychwanegwch y stribedi o borc, garlleg a sinsir
- Coginiwch am 4-5 munud hyd nes bod y cig wedi’i frownio ar bob ochr ac wedi’i goginio drwyddo.
- Ychwanegwch y saws soi, siytni mango, tsili, sudd a chroen leim a chymysgwch y cyfan nes bod y saws wedi lleihau rhywfaint.
- Ychwanegwch y reis a’i orchuddio’n dda. Ychwanegwch y moron, y mange tout a’r brocoli a choginiwch y cyfan am 2-3 munud.
- Tynnwch y badell oddi ar y gwres, ychwanegwch egin ffa, shibwns a hadau sesame; cymysgwch y cyfan yn ysgafn a’i weini.
Porc wedi’i dro ffrio mewn dull dwyreiniol
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g stêcs coesau porc wedi’u torri’n stribedi tenau
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 llwy de olew sesame
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 2.5cm gwreiddyn sinsir, wedi’i blicio a’i gratio
- 3 llwy fwrdd saws soi
- 1 lwy fwrdd siytni mango
- 1 tsili coch, heb hadau ac wedi’i dorri’n fân
- 1 sudd a chroen un leim
- 200g pecyn o reis wedi’i goginio eisoes
- 2 foronen, wedi’u plicio a’u torri’n ffyn tenau
- 50g mange tout neu bys siwgr snap, wedi’u sleisio
- 50g brocoli, wedi’i dorri’n flodigion bach
- 50g egin ffa
- 4 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
- 2 lwy fwrdd hadau sesame